Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Heddlu’r De i gyhoeddi adroddiad o’r hyn ddigwyddodd yn Nhrelái.
Daw’r alwad ar ôl i gamerâu cylch-cyfyng ddangos fan heddlu’n cwrso dau feic trydan eiliadau cyn gwrthdrawiad sbardunodd yr helynt, er bod yr heddlu’n dweud na ddigwyddodd hynny.
Yn ôl Rodney Berman, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Caerdydd, mae yna “gwestiynau difrifol” i’w hateb ynghylch yr hyn mae’r heddlu a’r Comisiynydd Alun Michael wedi’i ddweud.
“O ystyried bod pryderon ynghylch yr amserlen o ddigwyddiadau arweiniodd i fyny at y gwrthdrawiad sydd wedi’i darparu, sy’n ymddangos fel pe bai’n gwrthddweud adroddiadau lleol a thystiolaeth fideo, mae angen i’r digwyddiad hwn wynebu ymchwiliad diduedd ar unwaith,” meddai.
“Hoffwn hefyd apelio ar gymunedau ledled Caerdydd i bwyllo a gadael i weithredwyr priodol ymchwilio.
“Y peth diwethaf sydd ei angen arnom yw i unrhyw bobol ddiniwed gael eu dal yng nghanol y math o drais welson ni neithiwr.”
Datganiad gan yr heddlu
Mewn datganiad, dywedodd yr Uwch Arolygydd Martyn Stone fod yr heddlu’n parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad a’r anhrefn.
Dywedodd fod yr heddlu wedi cael gwybod am y gwrthdrawiad toc ar ôl 6 o’r gloch nos Lun (Mai 22), a bod beic trydan wedi’i symud oddi yno.
Wrth gynnal yr ymchwiliad, bydd yr heddlu’n defnyddio deunydd camerâu cylch-cyfyng i’w helpu i roi’r darnau at ei gilydd, ac mae’r teuluoedd yn cael diweddariadau ganddyn nhw, meddai.
Ond ychwanegodd nad oedd unrhyw gerbyd heddlu yn y stryd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, a bod yr heddlu wedi ceisio cyflawni CPR ac nad oedd unrhyw gerbyd arall yno ar y pryd.
Maen nhw’n apelio am dystion, ac yn dweud bod 15 o blismyn wedi cael eu hanafu, gan gynnwys 11 gafodd driniaeth yn yr ysbyty.
Wrth gydnabod “ofn” trigolion lleol, dywedodd fod nifer o bobol wedi cael eu harestio, ond wnaeth e ddim cadarnhau faint yn union, ond fod rhagor i ddilyn.
Ar ôl darllen datganiad, fe adawodd heb ateb cwestiynau am yr amwysedd ynghylch y deunydd camerâu cylch-cyfyng, a dydy’r Comisiynydd Alun Michael ddim wedi ateb unrhyw gwestiynau ynghylch yr honiadau hynny chwaith, gan gyfeirio’n unig at ddatganiad yr heddlu “sydd wedi’i eirio’n ofalus”.
Mae’r heddlu wedi cyfeirio’u hunain at Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu.