Mae grŵp ymchwil yn India yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i greu teclyn sy’n helpu i sicrhau bod gwybodaeth am gynlluniau’r llywodraeth ar gael mewn nifer o ieithoedd brodorol.
Mae Jugalbandi yn defnyddio modelau iaith AI4Bharat ac Azure OpenAI Service trwy WhatsApp, ac mae’n deall cwestiynau mewn deg o ieithoedd brodorol India pan fydd rhywun yn chwilio am wybodaeth, yn chwilio am yr wybodaeth honno yn Saesneg ar dudalennau’r llywodraeth, ac yn trosi’r wybodaeth yn ôl i’r ieithoedd brodorol.
Yn ôl Microsoft, gallai’r dechnoleg dorri drwy ffiniau ieithoedd, lle mae Saesneg ond yn iaith gyntaf i 11% o’r boblogaeth o 1.4bn.
Ymhlith y bobol mae’r dechnoleg wedi’u helpu hyd yn hyn mae myfyriwr sydd wedi ennill ysgoloriaeth a ffermwr oedd wedi gwneud cais am bensiwn ar ran ei rieni.
Ond mae yna rai pryderon am gywirdeb deallusol y dechnoleg, gan fod Jugalbandi weithiau’n cynnig atebion sydd i’w gweld yn gwneud synnwyr ond maen nhw’n ffeithiol anghywir.
Mae prinder data hefyd yn broblem, gan fod angen cysylltiad arbennig o dda i allu dod o hyd i’r wybodaeth gywir yn gyflym.
Yn ôl AI4Bharat, mae’r dechnoleg yn dibynnu ar atebion sydd “fwy na thebyg” yn gywir ac maen nhw’n cydnabod fod camgymeriadau’n gallu digwydd, a’u bod nhw’n cydweithio â nifer o unigolion a busnesau i sicrhau mwy o gywirdeb.