Mae Climate Cymru yn rhybuddio bod angen i anghydraddoldeb biliau ynni newid, gyda phobol mewn rhai ardaloedd yn talu biliau sylweddol uwch na phobol mewn ardaloedd eraill.
Mae disgwyl cyhoeddiad gan Ofgem fory (dydd Iau, Mai 25), fydd yn gosod pris biliau ynni o Orffennaf 1.
Mae disgwyl i bobol yng ngogledd Cymru fod ymhlith y rhai sy’n talu’r biliau uchaf ledled y Deyrnas Unedig, ac fe fyddan nhw’n talu biliau tipyn uwch na phobol mewn rhanbarthau eraill megis Dwyrain Canolbarth Lloegr.
Yn ôl ymchwil gan Cynnes y Gaeaf Hwn, roedd mwy na naw miliwn o oedolion yn byw mewn cartrefi llaith y gaeaf diwethaf, ac roedd cynnydd o 36% yn nifer yr achosion o hypothermia.
Yn ôl Climate Cymru, fydd cytundebau cyfnod sefydlog ddim yn datrys y sefyllfa, gan fod ffigurau diweddar yn dangos y gallai hyn gynyddu elw cwmnïau ynni a bod yn fwy drud i gwsmeriaid na’r tariff newidiol safonol.
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi cyllid i helpu â chostau byw, ond fydd hyn ddim yn helpu tua 1.7m o aelwydydd mewn tlodi tanwydd, yn ôl Climate Cymru, sy’n dweud bod hyn yn gyfystyr â thoriad termau real o gymharu â’r llynedd.
Fe fydd anghyfartaledd arall yn y farchnad ynni hefyd wrth i gwsmeriaid dalu am ynni gydag arian parod, siec neu drosglwyddiad banc gan wynebu premiwm sylweddol.
Hyd at fis Mawrth eleni, £2,100 oedd pris biliau ynni ar gyfartaledd, a hynny o ganlyniad i rywfaint o gymorth gan y llywodraeth.
Yn ôl rhagfynegiadau, bydd Ofgem yn cyhoeddi mai £2,054 fydd pris cyfartalog biliau ynni o Orffennaf 1, ac mae Cornwall Insight hefyd yn darogan y bydd capiau yn y dyfodol yn gosod biliau ynni cyfartalog ar £1,976 o Hydref 1, fydd yn codi eto i £2,045 o Ionawr 1 y flwyddyn nesaf.
Mae hyn yn golygu y bydd biliau ynni wedi dyblu erbyn Gorffennaf 1 ac yn 60% yn uwch na’r hyn oedden nhw cyn dechrau rhyfel Wcráin, yn ôl y Gynghrair Dileu Tlodi Tanwydd, a phobol yn llai tebygol o allu talu eu biliau oherwydd yr argyfwng costau byw.
‘Rwy’n gweithio’n llawn amser, ond i beth?’
Mae gan Vivian Thomas o Gaerdydd fesurydd rhagdalu, ac mae’n dweud bod hynny’n “rhoi elfen o reolaeth i’r defnyddiwr”.
“Ond mae’r taliadau’n uwch na thaliadau debyd uniongyrchol,” meddai.
“Mae mesuryddion rhagdalu yn rhoi’r dewis i mi rhwng bwyta neu gynhesu, neu fynd heb drydan am ychydig ddyddiau nes i mi gael fy nhalu nesaf, yna talu’r mesurydd yn ôl am ddefnyddio’r credyd brys.
“Mae’r taliadau sefydlog yn rhwystr, ac yn fy rhoi mewn dyled.
“Aeth fy arian yr wythnos hon ar gredyd am fy nhrydan.
“Rhaid i mi grafu trwodd tan ddiwrnod cyflog.
“Rwy’n gweithio’n llawn amser, ond i beth?”
‘Gwasgu rhai pobol yn fwy na’i gilydd’
Yn ôl Rhiannon Thomas o Ferthyr, mae pobol fel hi sydd ar Fesurydd Rhagdalu yn cael eu gwasgu’n fwy na phobol eraill “oherwydd bod ein cyfradd sefydlog ddyddiol gymaint yn uwch”.
“Rydych chi wastad yn dwyn oddi ar Peter i dalu Paul, ac yn chwilio am arian i fwydo’r mesurydd.
“Mae bod ar Fesurydd Rhagdalu yn teimlo fel cosb gan fod ein landlord yn gwrthod ei newid.”
Yn ôl Bethan Sayed o Climate Cymru, “mae’r anghydraddoldebau rhanbarthol yn annheg iawn”.
“Mae hyn yn cael ei waethygu gan bobol sy’n byw mewn hen gartrefi sy’n gollwng neu oddi ar y grid, a’r rhai ar fesuryddion rhagdalu yn cael llai o ynni am eu harian,” meddai.
“Mae angen i hyn newid.”
Dywed Simon Francis, cydlynydd y Gynghrair Dileu Tlodi Tanwydd, y bydd y cap prisiau diweddaraf “yn gyrru ias i lawr asgwrn cefn cwsmeriaid”.
“Mae pobol bellach yn wynebu llawer mwy o fisoedd gyda biliau yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel,” meddai.
“Bydd hyn yn golygu eu bod yn parhau i ddefnyddio eu cynilion, yn codi biliau cardiau credyd, yn mynd i ddyled gyda chwmnïau ynni neu’n troi at fanciau bwyd wrth i’r argyfwng costau byw ddyfnhau.”