Mae un fu’n elwa ar gronfa Ewropeaidd sydd newydd gyhoeddi’r alwad olaf am geisiadau yn dweud ei fod e wedi pleidleisio dros Brexit.
Mae arian ar gael o hyd i gefnogi busnesau pysgota trwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014-2020, a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw diwedd y mis hwn.
Mae cymorth grant ar gael o dan raglen Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014-2020 i gyfrannu at hyrwyddo gweithgareddau cystadleuol, amgylcheddol gynaliadwy, economaidd hyfyw a chymdeithasol gyfrifol.
Mae busnesau pysgota yn Sir Benfro yn cael eu hannog i wneud cais drwy Lywodraeth Cymru i gael mynediad at gyllid, o bosibl i wella gwerth neu ansawdd y pysgod sy’n cael eu dal er mwyn mynd i’r afael â’r bygythiad o ostyngiad ym mhris y farchnad.
Mae’r rhestr o eitemau buddsoddi cymwys yn ymwneud â phrosesu, marchnata a gwerthu dalfeydd yn uniongyrchol, gwelliannau i ansawdd cynnyrch pysgodfeydd a buddsoddiadau fydd yn caniatáu i ymgeiswyr ddefnyddio’u dalfeydd digroeso eu hunain.
Mae’n cynnwys offer fel biniau iâ slush, oergelloedd arddangos, ysmygwyr pen bwrdd, cloriannau, ystafelloedd rhewgell a systemau tanciau.
Albatross yn Arberth
Un sydd wedi manteisio ar y grant yw Berwyn Dennis, perchennog Albatross Fisheries yn Arberth yn Sir Benfro.
Mae’n dweud ei fod e wedi gwneud defnydd mawr o’r hyn sydd yn weddill o’r arian olaf gan yr Undeb Ewropeaidd.
Er mai arian o Ewrop yw’r cyllid, mae’n credu ei fod yn beth da fod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Cefais y grant fis Mawrth yma,” meddai wrth golwg360.
“Ymgeisiais amdano fis Mawrth diwethaf.
“Cymerodd bron i ddeuddeg mis i ddod drwodd.
“Cefais y cyllid ar gyfer rhewgell i gerdded mewn iddo, rhai blychau Kanga, masnach dur gwrthstaen, peiriant pacio dan wactod, a generadur ar gyfer yr uned rhag ofn imi golli trydan oherwydd bod gennyf gymaint o rewgelloedd.
“Dyma’r cyllid olaf i ddod o Ewrop, felly Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop yw’r cyfan.”
‘Cael ein dyfroedd yn ôl’
Pam, felly, fod perchennog busnes sy’n elwa ar arian Ewropeaidd wedi pleidleisio dros Brexit?
“Pleidleisiais i allan o’r Undeb Ewropeaidd oherwydd roeddwn i eisiau i ni gael ein dyfroedd yn ôl,” meddai.
“Dydw i ddim yn meddwl bod yr Undeb Ewropeaidd yn dda, oherwydd dim ond ein harian ni sy’n dod yn ôl atom ni.
“Rydyn ni’n talu 100% i mewn, a dim ond 60% yn ôl rydyn ni’n ei gael.
“Anghytunais ag e.
“Rwy’n meddwl y dylem roi ein cyllid ein hunain ar waith.”