Mae pryderon ynghylch dod â chynllun “hanfodol bwysig” i gadw bysiau gwledig i redeg ar Ynys Môn wedi gorfodi’r Cyngor Sir i weithredu.

Mae disgwyl i gefnogaeth o’r Cynllun Brys ar gyfer Bysiau (BES3) ddod i ben ar Orffennaf 24.

Mae hynny wedi arwain at bryderon y gallai nifer o lwybrau gwledig gael eu torri, gan adael trigolion ac yn enwedig rhai bregus ac oedrannus, wedi’u cau i ffwrdd.

Yn ystod cyfarfod llawn Cyngor Sir Ynys Môn ddydd Mawrth (Mai 23), daeth apêl i’r Llywodraeth ailymweld â’u cynllun i ddod â’r cyllid i ben.

Y rhai sy’n colli allan mewn toriadau

Cafodd Hysbysiad Cynnig ei gyflwyno gan Dafydd Rhys Thomas, Cynghorydd Ynys Gybi.

“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ailymweld â’r penderfyniad i ddod â chymorth ariannol BES3 i ben ar Orffennaf 24, 2023, ar gyfer bysiau cyhoeddus,” meddai.

“Mae’r cyllid hwn yn hanfodol bwysig i warchod gwasanaethau bysiau ar yr ynys.

“Yn ystod Covid, sylweddolodd y Llywodraeth y byddai llawer o wasanaethau bysiau’n mynd i’r wal heb gymorth.

“Rodd BES3 i fod i ddod i ben ym mis Hydref, ond pe bai BES3 yn cael ei dorri, byddwn ni’n colli 35 i 50% o wasanaethau bysiau.

“Mae bysiau cyhoeddus yn hanfodol ar gyfer cymunedau, ac fel arfer y rhai mwyaf bregus sy’n dibynnu ar y gwasanaethau hyn.

“Dyma’r rhai sy’n colli allan mewn toriadau, y rhai oedrannus, y rhai ifanc, y rhai sy’n methu fforddio car, mae angen y gwasanaethau hyn arnyn nhw i gyrraedd siopau, i weithio, i gymdeithasu, i weld y meddyg.”

Diffyg gofalwyr

Fe dynnodd sylw hefyd at ddiffyg gofalwyr ar yr ynys, gan ddweud y byddai diffyg gwasanaethau bysiau’n “ychwanegu at y broblem honno”.

Dyma’r un gwasanaethau bysiau â’r rheiny “aeth â phobol ifanc i golegau ac ysgolion”, meddai wrth dynnu sylw at y ffaith fod gan yr ynys lawer o gwmnïau bysiau bach.

“Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wahanol mewn ardaloedd gwledig ym Môn i rai Abertawe, Caerdydd neu’r Cymoedd,” meddai.

Er ei fod yn “falch” fod Llywodraeth Cymru’n edrych ar y mater, galwodd arnyn nhw i gefnogi cwmnïau bysiau ac i “ddeall pwysigrwydd a’r gwahaniaeth wrth drefnu bysiau mewn ardaloedd gwledig”.

“Rydyn ni eisiau sicrhau eu bod nhw’n cael eu hariannu ag arian craidd, mae’n amhosib cynllunio ymlaen efo’r system bresennol, heb wybod pa arian sy’n dod,” meddai.

Dywedodd hefyd ei fod yn “edrych ymlaen” at gydweithio â’r Llywodraeth i “symud ymlaen” ar y mater.

‘Hapus i gefnogi’r cynnig’

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei fod yn “hapus i gefnogi’r cynnig”, gan obeithio bod Llywodraeth Cymru’n gwrando, ac na fyddai yna BES4 ond yn hytrach, “polisi trafnidiaeth hirdymor”.

“Rydyn ni wedi colli llawer o gyflogwyr mawr ar yr ynys, mae’n rhaid i bobol deithio’n bellach ar gyfer gwaith, ac mae’n rhaid i drafnidiaeth weithio i bobol sy’n ceisio cyrraedd y gwaith.

“Rydyn ni hefyd eisiau cyrraedd targedau carbon ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac mae gan drafnidiaeth gyhoeddus ran enfawr i’w chwarae.”

Roedd Llinos Medi, arweinydd y Cyngor, hefyd yn hapus i gefnogi’r cynnig, gan ddweud bod “y Cyngor bob amser ar fai pan fydd bysiau’n cael eu torri – ond mae angen i bobol sylweddoli nad ein penderfyniad ni ydi o, ac mae’r penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud ymhell, bell i ffwrdd o Ynys Môn”.

Fe wnaeth y Cynghorydd Jeff Evans gefnogi’r cynnig hefyd, gan ddweud y byddai bywyd yng nghefn gwlad yn cael ei “ddifrodi”.

Cafodd y cynnig ei eilio gan Gary Pritchard, cynghorydd ward Seiriol, a’i gymeradwyo’n unfrydol gan y Cyngor.