Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhuddo Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig o “eistedd ar eu dwylo” wrth i brisiau bwyd gynyddu.

Mae’n dweud iddyn nhw hwyluso’r argyfwng sydd wedi’i achosi gan farusrwydd, wrth i archfarchnadoedd barhau i wneud “elw i’r entrychion”.

Yn ystod sesiwn holi Ysgrifennydd Gwladol Cymru, tynnodd hi sylw at weithgarwch llywodraethau eraill yn Ewrop i fynd i’r afael â’r sefyllfa, tra bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ei hôl hi.

Mae Ffrainc wedi dod i gytundeb ag archfarchnadoedd, gan sicrhau bod ystod o nwyddau ar gael am y prisiau lleiaf posib, tra bod Sbaen a nifer o wledydd eraill wedi gostwng TAW ar fwyd.

Yng nghanolbarth Ewrop, mewn gwledydd fel Hwngari a Chroatia, mae mesurau ar waith i gyfyngu ar gost nwyddau hanfodol er mwyn gwarchod yr aelwydydd mwyaf bregus.

‘Argyfwng’

“Mae chwyddiant bwyd yn dal dros 19% – ac mae’n taro’r rhai tlotaf galetaf, gydag Ymddiriedolaeth Trussell yn rhybuddio bod 185,000 o barseli bwyd, y nifer fwyaf erioed, wedi’u darparu yng Nghymru,” meddai Liz Saville Roberts yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Yn y cyfamser, mae archfarchnadoedd yn parhau i wneud elw sy’n torri record – ac mae nifer yn sôn am argyfwng ‘chwyddiant barusrwydd’.

“Mae llywodraethau Ewropeaidd wedi negodi ag archfarchnadoedd i roi cap ar brisiau bwyd.

“Pam na wneith ei lywodraeth o wneud hyn?”

Yn ôl David TC Davies, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud, “yn ychwanegol at bensiynau a budd-daliadau’n codi gyda chwyddiant, fod yna daliadau o £900 i’r rhai sydd ar fudd-daliadau, £300 i bensiynau, £150 i’r rhai mewn aelwydydd ag anableddau”.

Ond yn ôl Liz Saville Roberts, dydy’r Ceidwadwyr ddim yn amgyffred “baich prisiau bwyd yn cynyddu’n gyflym ar aelwydydd”.

“Mae archfarchnadoedd yn parhau i wneud elw i’r entrychion, ond eto maen nhw’n cael codi crocbris am nwyddau hanfodol,” meddai.

“Tra bod gwledydd Ewropeaidd eraill yn gweithredu i fynd i’r afael â chwyddiant bwyd, mae gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eistedd ar eu dwylo.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau brys pendant i sicrhau nad yw chwyddiant yn cael ei ecsbloetio gan archfarchnadoedd fel esgus i wneud elw eithafol.”