Mae cadeirydd newydd Cyngor Sir Ynys Môn yn dweud bod gorfod troi at fanciau bwyd yn “sobor o beth”, wrth iddi gydymdeimlo â’r rhai ar yr ynys sy’n ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.

Cafodd Margaret Murley Roberts ei hethol i’r Cyngor Sir am y tro cyntaf fis Mai 2017, ac mae hi’n un o dri chynghorydd sy’n gwasanaethu ward Lligwy.

Yn wreiddiol o Foelfre, dychwelodd i fyw ar yr ynys yn 2006, a hynny ar ôl treulio bron i  30 mlynedd yn byw yn y canolbarth, lle magodd hi a’i gŵr Tegwyn dri mab.

Maen nhw bellach yn byw yn Llanbedrgoch.

Ar ôl derbyn cefnogaeth ar gyfer ei henwebiad yn ystod Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol y Cyngor ddoe (dydd Mawrth, Mai 23), diolchodd i’w chyd-aelodau am ei hethol “ac am roi’r cyfle i mi fod yn bennaeth dinesig y Cyngor yn ystod 2023/24”.

“Cefais y fraint o gael fy ethol fel Cadeirydd yn 2019/20 ond, yn anffodus, cafodd fy mlwyddyn ei effeithio’n sylweddol gan Covid-19,” meddai.

“Eleni, byddaf unwaith eto’n mynd ati i wasanaethu’r ynys a’i thrigolion hyd eithaf fy ngallu.

“Edrychaf ymlaen yn fawr iawn i fod yn llysgennad da ar ran y Cyngor Sir wrth i mi gyflawni fy nyletswyddau dinesig dros y deuddeg mis nesaf.”

Cyhoeddodd hefyd mai Banciau Bwyd Môn fyddai Elusen y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae’r Cynghorydd Glyn Haynes, sy’n cynrychioli ward Parc a’r Mynydd, wedi’i ethol yn is-gadeirydd.

Yn ei hamser hamdden, mae Margaret Murley Roberts yn hoffi teithio, cerdded a darllen, ac mae hi a’i gŵr, sy’n ffotograffydd, yn rhannu’r diddordeb hwnnw hefyd.

Effaith costau byw ar yr ynys

Mae Banciau Bwyd Ynys Môn yn agos at galon Margaret Murley Roberts, gan ei bod yn gweld yr effaith mae’r cynnydd yn ei chael ar fywydau pobol ar yr ynys.

Mae hi’n beio’r llymder sydd wedi bod dros y deuddeg mlynedd diwethaf am yr argyfwng, a’i gobaith yw codi cymaint o arian â phosib at fanciau bwyd yr ynys.

“Hwnna fydd y prif beth,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n sobor o beth bod pobol yn gorfod mynd i fanciau bwyd, ond dyna fy mhrif beth, y gallaf godi cymaint o arian â phosib i fanciau bwyd.

“Mae heriau byw dyddiau yma, costau byw yn enwedig i ni ym Môn fan hyn.

“Mae cael tŷ a thŷ rhent yn ofnadwy o beth.

“Mae rhentiau yn uchel a chostau yn uchel.

“Dydy cyflogau ddim yn uchel iawn.

“Mae’n sobor o beth eu bod nhw’n gorfod mynd i fanciau bwyd, ond dyna fel mae hi a dyna’r oes sydd ohoni.

“Mae’r llymder ers 12 blwyddyn wedi achosi hyn, yn bendant.”

‘Dim cecru’

Mae Margaret Murley Roberts am weld y tîm “gwerth chweil” ar y Cyngor yn cydweithio heb wrthdaro yn y cyfnod anodd sydd ohoni.

“Does gennyf fi ddim rôl ond sifig, mewn ffordd,” meddai.

“Fe wna i wneud o yn y ffordd orau galla i.”

Nid dyma’r tro cyntaf iddi gael ei hethol i’r rôl, ond cafodd ei blwyddyn gyntaf yn 2019-20 ei chwtogi gan y pandemig Covid-19.

“I mi, rwy’n gadeirydd am yr ail dro,” meddai.

“Dydw i ddim cweit mor nerfus ag oeddwn i y tro cyntaf.

“Rwy’n meddwl mai’r heriau fydd ein bod ni’n gweithio mewn ffordd adeiladol, a bod dim cecru; rydym yn weddol dda dyddiau yma.

“Dyna’r prif heriau i mi, ein bod ni’n cadw pethau yn weddol dynn a bod pawb â’r hawl i siarad fel maen nhw eisiau ond ein bod ni ddim yn cecru.

“Mae hynny’n bwysig iawn i mi.

“Rydym yn dîm hapus, yn dîm adeiladol ac yn dîm sydd eisiau gwneud y gorau ar gyfer trigolion Ynys Môn, y gorau gallwn ni o dan yr amgylchiadau rydym yn gweithio [ynddyn nhw].

“Mae’n gyfnod anodd.”