Mae 53% o bobol yn yr Alban o blaid annibyniaeth, i lawr o 56%, yn ôl pôl newydd.
Ond mae arolwg gan Ipsos Scottish Political Monitor wedi canfod fod y gefnogaeth i’r SNP wedi gostwng deg pwynt canran i 41% ers mis Rhagfyr.
Yn y cyfnod hwnnw, fe fu helynt ariannol yn gysgod tros y blaid, ar ôl i Peter Murrell, cyn-Brif Weithredwr y blaid, gael ei arestio fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i gyllid yr SNP.
Mae annibyniaeth hefyd ymhlith pum prif flaenoriaeth trigolion yr Alban, ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Iechyd, gofal iechyd, chwyddiant ac addysg.
Mae’r pôl hefyd yn datgan cynnydd yn y gefnogaeth i’r Blaid Lafur, ar ôl i YouGov ddarogan y gallen nhw gipio 23 o seddi oddi ar yr SNP mewn etholiad cyffredinol.
Yn ôl IPSOS, dydy nifer sylweddol o bobol bleidleisiodd dros annibyniaeth yn 2014 ddim am bleidleisio dros yr SNP, gan droi at bleidiau erail, gan awgrymu cysylltiad llai amlwg rhwng yr SNP ac annibyniaeth erbyn hyn.
Dywed Mhairi Black, Aelod Seneddol yr SNP, fod yr arolwg yn “galonogol iawn”, ond nad ydyn nhw fel plaid “yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol”.