Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi llinell amser er mwyn ceisio egluro’r hyn oedd wedi digwydd nos Lun (Mai 22), pan oedd gwrthdrawiad ac anhrefn yn ardal Trelái yng Nghaerdydd.

Digwyddodd gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden toc ar ôl 6 o’r gloch, gan ladd Kyrees Sullivan a Harvey Evans, dau lanc lleol.

Mae’r Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Bacon wedi estyn ei chydymdeimlad i deuluoedd y ddau, gan ddweud bod yr heddlu’n eu cefnogi.

Dywed ei bod hi’n ymwybodol o “bryderon yn y gymuned leol” ynghylch llinell amser y digwyddiadau, a deunydd camerâu cylch-cyfyng sydd fel pe bai’n dangos cerbyd yr heddlu’n dilyn beic trydan ar stryd gyfagos.

“Byddem wedi hoffi gallu darparu’r lefel hon o wybodaeth ddoe, ond mae hwn yn ymchwiliad cymhleth ac roedd yn rhaid i ni bod yn ofalus o’r ffeithiau cyn eu cadarnhau nhw,” meddai, gan ychwanegu bod yr heddlu wedi bod yn cadarnhau tystiolaeth gan lygad-dystion, yn dadansoddi data o gerbydau’r heddlu ac yn astudio lluniau camerâu cylch-cyfyng.

Dyma’r llinell amser, yn ôl yr heddlu:

17:59 – Lluniau camerâu cylch-cyfyng yn dangos beic yn teithio tuag at gerbyd yr heddlu ar Ffordd Frank, cyn troi o amgylch

18:00 – Cerbyd yr heddlu’n dilyn y beic heb oleuadau na seiren

18:01 – Cerbyd yr heddlu’n mynd dros gylchfan ac ar hyd nifer o strydoedd

18:02 – Cerbyd yr heddlu’n troi i mewn i Grand Avenue

18:02 – Gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden, a cherbyd yr heddlu yn dal ar Grand Avenue hanner milltir i ffwrdd

18:06 – Cerbyd yr heddlu ar Heol Orllewinol y Bont-faen wrth dderbyn gwybodaeth am y gwrthdrawiad, ac yn ymateb ar oleuadau glas a seiren.

Dywed yr heddlu nad oedd ganddyn nhw gerbyd ar y stryd lle digwyddodd y gwrthdrawiad, a’u bod nhw wedi cyfeirio’u hunain at Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu ar gyfer “craffu annibynnol”.

“All ddim byd esgusodi lefel y trais ac anhrefn ddilynodd yn y gymuned,” meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Bacon.

“Cafodd eiddo ei ddifrodi, ac roedd gan bobol ofn yn eu cartrefi eu hunain.

“Rydym bellach yn canolbwyntio ar gynnal ymchwiliad llawn i amgylchiadau’r gwrthdrawiad a’r golygfeydd ofnadwy ddilynodd.”

Mae’r heddlu’n dal i apelio am dystion, gwybodaeth a deunydd ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol, ac yn dweud eu bod nhw eisoes wedi casglu tua 180 o ddarnau o dystiolaeth gan blismyn.

 

‘Sïon wedi cyfrannu at yr anhrefn yn Nhrelái’

Cadi Dafydd

Mae un sy’n byw yn Nhrelái ac a oedd yn dyst i’r anhrefn yno’n credu bod y gymuned wedi “cael eu gadael lawr yn wael” gan yr heddlu