Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar holl ffermwyr Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy blannu coed, wrth i gyfraddau talu uwch ar gyfer creu coetir gael eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Mai 25).

Cadarnhaodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, a Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths, y bydd cyfraddau talu yn cael eu codi i dalu 100% o gostau gwirioneddol 2023, fel rhan o ymgyrch Cymru i blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd a choed yw ein hachubiaeth,” meddai Julie James.

“Drwy blannu coed mae’n cael gwared ar nwyon tŷ gwydr o’n hatmosffer drwy storio carbon.

“Yn gynharach eleni, siaradom â’r sectorau ffermio a choedwigaeth i ddeall yn well yr hyn sy’n rhwystro ffermwyr rhag creu coetir.

“Roedd cyfraddau talu yn broblem; gwrandawon ni ac rydym yn falch iawn o gadarnhau cynnydd sylweddol heddiw – byddwn yn cadw llygad ar y cyfraddau o hyn ymlaen, yn enwedig tra bo chwyddiant yn parhau’n uchel.”

‘Y goeden gywir yn y man cywir’

“Rydyn ni am weithio gyda ffermwyr ar yr egwyddor ‘y goeden gywir yn y man cywir’,” meddai Lesley Griffiths.

“Gall plannu coed hefyd ddod yn ased dros amser – gan ddarparu cysgod i dda byw neu incwm o’r pren.

“Mae cyllid ar gael nawr a dylai’r cyfraddau uwch ei wneud yn gynnig mwy deniadol i ffermwyr.

“Byddem yn annog ffermwyr ar draws Cymru i fanteisio ar y cymorth nawr, a hynny o ran cyllid a chyfarwyddyd, fel ein bod i gyd yn gallu chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, a helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant.”

‘Y diafol yn y manylion’

Mae Samuel Kurtz, llefarydd Materion Gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud y bydd “y diafol yn y manylion” o ran y polisi hwn.

“Dw i’n falch o weld y Gweinidog Materion Gwledig yn sôn am ‘y goeden gywir yn y man cywir’,” meddai.

“Mae gan blannu coed ran greiddiol i’w chwarae, ond ni ddylid ei weld fel bwled arian ac ni ddylai prif flaenoriaeth y ffermwr – cynhyrchu bwyd amgylcheddol-gyfeillgar o safon uchel, gael ei gwthio i lawr yr agenda.

“Bydd y diafol yn y manylion o ran y polisi hwn, er mwyn sicrhau bod modd ei gyflawni, ei fod yn fuddiol ac yn ariannol ddichonadwy i ffermwyr Cymru.”