Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y Llywodraeth yn anwybyddu’r alwad am Ddeddf Eiddo yn “llwyr”.

Daw hyn ar ôl i’r miloedd fu yn y rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yng Nghaernarfon yrru neges at Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn galw am Ddeddf Eiddo i reoli’r farchnad dai.

Mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi cynnwys y llythyr gan Julie James, sy’n dweud eu bod nhw’n datgan eu “[h]ymrwymiad i ddyfodol ein cymunedau lleol”.

“Galwaf ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i reoli’r farchnad dai i sicrhau eu dyfodol,” meddai wedyn.

‘Wedi gweithredu’r brydlon’

Yn ei llythyr, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James yn dweud bod “Llywodraeth Cymru am i bawb allu fforddio byw yn eu hardal leol, boed hynny drwy brynu neu rent cartref”.

“Rydym yn gwybod bod llawer o gymunedau gwledig ledled Cymru o dan bwysau oherwydd y niferoedd uchel o ail gartrefi, llety gwyliau a thai gwag, a’r effaith y gallant ei chael ar gymunedau a chynaliadwyedd y Gymraeg,” meddai wedyn.

“Rydym yn ymateb i’r broblem mewn modd penderfynol.

“Y llynedd amlinellais ein hymateb cydlynol ar gyfer mynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â’r niferoedd uchel o ail gartrefi a llety tymor byr.

“Rydym wedi ymgynghori’n helaeth ac wedi gweithredu’n brydlon.”

Mae’n mynd yn ei blaen i nodi cynnwys “pecyn mwyaf cynhwysfawr a radical y Deyrnas Unedig”, fel newidiadau i drethi lleol a chenedlaethol a chyhoeddi Papur Gwyn ar y posibilrwydd o sefydlu system renti teg.

‘Mae’n amlwg nad yw’n clywed yr alwad’

“Daeth dros fil o bobol i rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghaernarfon bythefnos yn ôl,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.

“Fe wnaethon ni eu hannog i ddanfon neges at y Gweinidog yn galw am Ddeddf Eiddo i reoleiddio’r farchnad ac wedi derbyn llythyr yn ôl i ymateb i’r holl bobol hynny – llythyr sy’n anwybyddu’n llwyr yr alwad ganolog am Ddeddf Eiddo.

“Yn ei llythyr aton ni ddywed y Gweinidog ei bod yn barod i wrando, ond mae’n amlwg nad yw’n clywed y galwad am Ddeddf Eiddo.

“Mae’n cyfeirio’n ôl at y camau pwysig a gymerodd y Llywodraeth i reoli gormodedd ail gartrefi a llety gwyliau, ac yn cyfeirio at fwriad i ystyried camau i wella amodau tenantiaid preifat.

“Mae’r rhain oll yn bwysig, ond gwraidd y broblem yw’r ffaith na all ein pobol gystadlu ar farchnad agored i brynu na rhentu tai fel cartrefi yn eu cymunedau ac yn cael eu gorfodi allan.

“Ni fydd trefniadau gwirfoddol yn ateb y broblem.

“Mae angen Deddf Eiddo i reoli’r farchnad a blaenoriaethu pobol leol.

“Mae’r Llywodraeth yn anwybyddu’r galwad hwn yn llwyr, felly rydyn ni’n datgan ein bwriad i drefnu ymgyrch egnïol i sicrhau fod Deddf Eiddo yn cael ei chyflwyno yn ystod y tymor seneddol hwn, fydd yn cynnwys rali ar faes Eisteddfod Pen Llŷn, ardal â phroblemau tai amlwg iawn.

“Galwn i bobol o gymunedau ar draws i ymuno gyda ni yn yr ymgyrch honno.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Credwn fod gan bawb hawl i gartref fforddiadwy a gweddus y gallant ei rentu neu ei brynu o fewn eu cymunedau fel y gallant fyw a gweithio’n lleol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ni oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i lansio gwahanol fesurau arloesol er mwyn helpu pobol i fyw yn eu cymunedau lleol a mynd i’r afael â nifer uchel yr ail gartrefi.

“Mae hyn yn cynnwys defnyddio systemau cynllunio, eiddo a threthu fel rhan o becyn cydlynol o atebion i gyfres gymhleth o faterion.

“Rydym hefyd wedi cymryd camau ymarferol, gan gynnwys yn Nwyfor, i helpu pobol sydd â chyswllt â’r ardal leol i sicrhau cartrefi fforddiadwy o fewn eu cymunedau.

“Byddwn yn parhau i anelu at fynd i’r afael â’r materion hyn ac rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar bosibilrwydd sefydlu system o renti teg yn ogystal â dulliau newydd o wneud cartrefi’n fwy fforddiadwy i bobol ar incwm lleol.”