Mae polau yng Nghatalwnia’n darogan tranc Ciudadanos, y blaid fwyaf gwrthwynebus i annibyniaeth sydd bellach yn wynebu brwydr i oroesi.

Mae disgwyl i’r blaid berfformio’n wael yn yr etholiadau lleol sydd ar y gweill, gan ddilyn patrwm tebyg i’r blynyddoedd diwethaf.

Cafodd y blaid ei sefydlu ganol degawd cynta’r ganrif hon, a daethon nhw’n boblogaidd am gyfnod byr dros y degawd diwethaf.

Nhw oedd y llais cryfaf tros undod Sbaen ac yn erbyn annibyniaeth i Gatalwnia adeg y refferendwm ‘anghyfansoddiadol’ yn 2017, gan ennill etholiad y flwyddyn honno hefyd, ond llwyddodd y pleidiau tros annibyniaeth i ddal eu gafael ar eu grym.

Daethon nhw’n bumed yn yr etholiadau lleol bedair blynedd yn ôl, gan sicrhau 239 o gynghorwyr, ond maen nhw wedi bod yn colli cefnogaeth ac aelodau blaenllaw yn gyson ers hynny.

Maen nhw hefyd yn feirniadol o Gyngor Ada Colau, Maer Barcelona, gyda chyhuddiadau o gamddefnyddio arian yn ffrae fawr ar hyn o bryd, gyda’r addewid o gynnal archwiliad ar ôl yr etholiad.

Tra bod y rhan fwyaf o gefnogwyr annibyniaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig, mae disgwyl i Ciudadanos ganolbwyntio ar ardaloedd trefol a dinesig, ond gydag agweddau tuag at annibyniaeth yn newid yn raddol, maen nhw’n dal i wynebu cryn her yn yr ardaloedd hynny hefyd.

Polisïau

O ran polisïau, mae Ciudadanos yn addo bod yn llym o ran torcyfraith, ac maen nhw o blaid rhoi’r hawl i’r heddlu yn Barcelona gario taser.

Maen nhw hefyd yn arddel yr iaith Sbaeneg mewn sefyllfaoedd ffurfiol, ac yn ymgyrchu yn erbyn sgwatwyr, sy’n un o bynciau llosg yr etholiadau.

Maen nhw hefyd yn awyddus i sefydlu swyddfa hawliau sifil er mwyn gwarchod dwyieithrwydd, gan ddweud bod yr iaith Sbaeneg yn cael ei hanwybyddu yng Nghatalwnia a chyhuddo’r Cyngor yno o fod yn wrthwynebus i’r iaith a “niweidio hawliau siaradwyr Sbaeneg a chreu gwrthdaro”.

Mae disgwyl i Ciudadanos gystadlu yn erbyn Plaid y Bobol a Vox am bleidleisiau’r bobol hynny sydd o blaid undod â Sbaen, ac mae disgwyl brwydr ffyrnig rhyngddyn nhw.

Ond mae’r polau’n darogan y gallen nhw ddiflannu’n llwyr o Gyngor Barcelona.