Mae Europol yn dal i ystyried ymgyrch annibyniaeth Catalwnia’n frawychiaeth, yn ôl eu hadroddiad diweddaraf ar frawychiaeth o fewn gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Yn y fersiwn ddiweddaraf o’r adroddiad gafodd ei gyhoeddi fis Mehefin, mae asiantaeth gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd yn dal i ddisgrifio mudiadau annibyniaeth Catalwnia a Gwlad y Basg fel y rhai “mwyaf gweithgar a threisgar” yn Sbaen.

Mae’r mudiadau annibyniaeth wedi’u rhestru o dan “frawychiaeth”.

Dywed yr adroddiad fod naratifau’r mudiadau’n “cyfuno ymwahaniaeth â safbwyntiau asgell chwith eithafol” a bod eu negeseuon “yn gwrthwynebu gwladwriaeth Sbaen” ac yn wfftio cyfalafiaeth.

Fe wnaeth yr adroddiad gwreiddiol gorddi gwleidyddion yng Nghatalwnia, ac fe wnaeth Llywodraeth Sbaen, ar gais plaid Junts per Catalunya, ofyn am eglurhad o ran beth yw eithafiaeth dreisgar.

Fe wnaeth plaid Esquerra fynegi pryder hefyd, ac fe fydd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Diana Riba yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Europol i drafod y mater.

Mae grŵp craffu Europol Senedd Ewrop yn ystyried newid y dull o ddiffinio eithafiaeth a brawychiaeth – rhywbeth mae gwleidyddion Gwyrdd ledled Ewrop yn galw amdano.

Yn ôl Jean-Phillipe Lecouffe, cyfarwyddwr gweithredol Europol, mae’r adroddiad yn casglu data sydd wedi’i roi gan wladwriaethau sy’n aelodau.