Mae ymgyrch ar y gweill i ddangos sut roedd dinas Abertawe wedi bod ar ei hennill pan oedd y Deyrnas Unedig yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae cerflun o un o’r sêr ar faner yr Undeb Ewropeaidd, gafodd ei greu gan yr Almaenwr Jacques Tilly, wedi bod ar daith drwy ail ddinas Cymru, gan ymweld â lleoliadau sydd wedi elwa ar arian Ewropeaidd.

Mae Jacques Tilly yn fwyaf enwog am ddylunio ffigurau dychanol ar gyfer carnifalau yn yr Almaen.

Cafodd y seren ei thywys o amgylch y ddinas gan y mudiad llawr gwlad Abertawe dros Ewrop, sy’n brwydro i fagu cysylltiadau agosach ag Ewrop unwaith eto.

Bu’r seren, sy’n fetr o uchder, yn ymweld â’r orsaf drenau ar y Stryd Fawr, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Canolfan Gymunedol Phoenix yn Townhill, a Champws y Bae Prifysgol Abertawe.

Mae yna fersiwn o’r seren sy’n mesur 2m hefyd, ac mae honno’n cael ei harddangos yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd tan ddiwedd y mis yma fel rhan o daith drwy wledydd Prydain.

Mae’r cerflun yn dangos y seren sydd wedi cwympo allan o’r cylch o sêr sy’n ymddangos ar faner yr Undeb Ewropeaidd, ond yn nodi bod ganddi’r un nodweddion a gwerthoedd â’r sêr eraill o hyd.

Mae dwy ochr y seren yn wahanol, gydag un ochr yn dangos Seren Heddwch a cholomennod, a seren undod ar yr ochr arall yn cynrychioli trigolion, hawliau, amrywiaeth a chydraddoldeb i bawb, ac maen nhw’n dal dwylo fel arwydd o undod.

Bydd y seren yn teithio i Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer cymal nesa’r daith.

‘Amrywiaeth eang o brosiectau wedi elwa’

“Roedd Abertawe dros Ewrop wrth ein boddau o gael croesawu’r Seren yn Abertawe ddydd Sadwrn ac o gael gwerthfawrogi ei neges ddeuol o heddwch ac undod y naill ochr a’r llall i’r cerflun,” meddai Edmund Sides, cadeirydd Abertawe dros Ewrop.

“Aethon ni â’r Seren i wahanol leoliadau yn Abertawe i ddangos yr amrywiaeth eang o brosiectau sydd wedi elwa ar arian Ewropeaidd.

“Aethon ni i brosiectau uchel eu proffil megis Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Champws y Bae Prifysgol Abertawe.

“Aethon ni hefyd i lefydd lle gwnaeth arian Ewropeaidd dalu am uwchraddiadau – Gorsaf Stryd Fawr Abertawe a gorsaf newydd Parcffordd Port Talbot.

“Ond nid ar gyfer prosiectau adeiladu yn unig roedd arian yr Undeb Ewropeaidd.

“Fe wnaeth e hefyd gefnogi pobol leol yn uniongyrchol drwy brosiectau megis Canolfan Gymunedol Phoenix yn Townhill.

“Diolch yn fawr i’n holl wirfoddolwyr ddaeth allan i gadw cwmni i’r Seren grwydrol yn ei thaith o gwmpas Abertawe.”