Mae Plaid Cymru wedi lleisio pryderon na fydd Llywodraeth Cymru’n wynebu’r craffu mae llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig yn ei wynebu.
Mae llywodraethau’r Alban a San Steffan wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar ar ôl i negeseuon WhatsApp yn ymwneud â’u hymdriniaeth o’r pandemig gael eu cyhoeddi.
Ond yn ôl Plaid Cymru, dydy’r un sylw heb ei roi i ymdriniaeth Llywodraeth Lafur Cymru.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford i fynegi pryder ynghylch “cyn lleied o gyfranogwyr craidd o Gymru” sy’n cymryd rhan yn y modiwl yn yr ymchwiliad dros wledydd Prydain sy’n craffu’n benodol ar ba mor barod roedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y pandemig.
“Os ydych chi wir yn credu mai ymchwiliad y Deyrnas Gyfunol yw’r ffordd orau o archwilio ymateb Cymru i’r pandemig, byddem yn disgwyl i chi wneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn ystyried tystiolaeth gan ystod mor eang â phosibl o randdeiliaid Cymreig,” meddai Mabon ap Gwynfor yn ei lythyr.
“Er budd tryloywder a thrylwyredd felly, mae’n hanfodol bod eich Llywodraeth yn mynd ati i estyn allan at gynifer o sefydliadau perthnasol â phosibl a’u hannog i gofrestru fel cyfranogwyr craidd ar gyfer y modiwlau hyn, yn ogystal ag unrhyw fodiwlau dilynol.”
‘Llywodraeth Cymru yn parhau i osgoi’r gwaith craffu’
Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ers tro am ymchwiliad Covid penodol i Gymru, oherwydd “dylid craffu ar benderfyniadau a wneir yng Nghymru yng Nghymru”, medden nhw.
Dywed Mabon ap Gwynfor nad oes gan Blaid Cymru “ddim ffydd” yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig.
“Gan fod y ffocws yn cael ei gyflwyno unwaith eto i barodrwydd y llywodraeth ar gyfer pandemig Covid, yr hyn sydd yr un mor glir yw’r posibilrwydd go iawn na fydd Cymru yn destun yr un lefelau craffu,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Nid yw hyn yn llai amlwg na gyda sylw ar WhatsApp gan Lywodraeth yr Alban a’r Deyrnas Unedig, tra bod Llywodraeth Cymru yn llwyddo i guddio yn y cysgodion o ran pa negeseuon y gallai fod wedi’u hanfon yn ystod yr un amser neu beidio.
“Mae hyn yn bwysig oherwydd ein bod eisoes yn gwybod gan Gadeirydd Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig nad yw’r ymchwiliad ‘yn gallu ymdrin â phob mater’ sy’n ymwneud â Chymru.
“Mae hyn yn bwysig oherwydd cyn lleied o gyfranogwyr craidd o Gymru sy’n cymryd rhan ym Modiwl 2 – dyna’r modiwl sy’n craffu ar barodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y pandemig.
“Ac mae hyn yn bwysig oherwydd mai dim ond ymchwiliad llawn a thrylwyr fydd yn darparu’r atebion y mae pobol Cymru eu hangen a’u haeddiannol.
“Does gan Blaid Cymru ddim ffydd yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig fel y cyfrwng mwyaf effeithiol a chynhwysfawr ar gyfer craffu ar ymateb y pandemig yng Nghymru.
“Dylid craffu ar benderfyniadau a wneir yng Nghymru yng Nghymru.
“Dyna pam rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i ganfod pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i sefydliadau yng Nghymru wrth ymgeisio i fod yn Gyfranogwyr Craidd yn Ymchwiliad y Deyrnas Unedig.
“Gyda chyn lleied o bobol yn siarad dros Gymru, mae’n bosibl mai’r gwir amdani yw na fydd llais Cymru yn cael ei glywed yn yr ymchwiliad hwn yn y DU, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i osgoi’r gwaith craffu sy’n cael ei lefelu mewn llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.