Emyr George yw Prif Weithredwr cyntaf Adnodd, corff newydd fydd yn goruchwylio darparu adnoddau addysgol yng Nghymru.

Wedi’i sefydlu yn gynharach eleni, bydd Adnodd yn goruchwylio’r gwaith o gomisiynu a darparu deunyddiau addysg i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’r cymwysterau newydd ar gyfer dysgwyr 14-16 oed.

Bydd Emyr George yn ymuno ag Adnodd yn gynnar yn 2024 o’i rôl bresennol yn Gyfarwyddwr Cymwysterau, Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru.

Mae ganddo fe wyth mlynedd o brofiad yn Cymwysterau Cymru, a phrofiad blaenorol yn Ofqual, y rheoleiddiwr cymwysterau ac arholiadau ar gyfer Lloegr.

Yn fwy diweddar, bu’n arwain diwygiadau i gymwysterau i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan gynnwys set newydd sbon o gymwysterau TGAU ‘Gwneud i Gymru’.

Cafodd ei enwi’n gynharach eleni yn un o ‘100 o Wneuthurwyr Newid’ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, am iddo fe gael effaith gadarnhaol drwy ei waith ar ddiwygio cymwysterau.

Mynediad at “amrywiaeth o ddeunyddiau” yn “hanfodol”

“Ar ôl gweithio ym myd addysg ers blynyddoedd lawer, rydw i’n frwd dros roi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i bobol ifanc,” meddai Emyr George.

“Edrychaf ymlaen at weithio gydag eraill i roi’r offer sydd eu hangen ar ddysgwyr ac athrawon i lwyddo

“Mae’n hanfodol bod dysgwyr ac athrawon yn gallu cael mynediad at amrywiaeth eang o ddeunyddiau o ansawdd uchel i gwrdd ag anghenion byd sy’n newid yn gyflym.

“Adnoddau yn y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n berthnasol, yn ddeniadol ac yn hygyrch i bob dysgwr ac sy’n adlewyrchu diwylliannau amrywiol ein cenedl.

“Fy nhasg gyntaf fydd adeiladu tîm sydd â’r sgiliau a’r profiad cywir i weithio gyda dysgwyr, athrawon a llu o gyfranwyr i greu’r adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel a fydd yn helpu i ddod â Chwricwlwm newydd Cymru yn fyw i bob dysgwr.”

Wrth wneud sylw ar y penodiad, dywed Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, ei fod e wrth ei fodd fod Emyr George wedi’i benodi.

“Bydd ei brofiad a’i arbenigedd yn amhrisiadwy wrth symud Adnodd ymlaen, gan alinio adnoddau addysgol y dyfodol â’r Cwricwlwm i Gymru a’n cymwysterau newydd,” meddai.

“Rwy’n benderfynol bod ein holl ddysgwyr yn gallu cael mynediad at adnoddau addysgol dwyieithog o’r safon uchaf – dydyn nhw’n haeddu dim llai.

“Edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos ag Emyr a thîm ehangach Adnodd i wireddu ein gweledigaeth o sicrhau safonau uchel i bawb.”