Mae Cyngor Cyffredinol y Farnwriaeth yn Sbaen wedi cymeradwyo datganiad sefydliadol sy’n gwrthwynebu amnest i arweinwyr annibyniaeth Catalwnia.

Mae’r grŵp o ynadon, oedd wedi pleidleisio o naw i bump gydag un yn ymatal, yn credu y byddai amnest yn golygu “dileu rheolaeth y gyfraith yn Sbaen”.

Mae Pedro Sánchez, Prif Weinidog dros dro Sbaen, wedi cefnogi amnest yn gyhoeddus, ond dydy’r ddeddf ddim wedi cael ei chyflwyno hyd yn hyn.

Mae’n ceisio sicrhau digon o gefnogaeth i allu aros yn ei swydd yn barhaol, ac mae amnest yn un o amodau Esquerra Republicana a Junts per Catalunya, y pleidiau o blaid annibyniaeth, cyn y byddan nhw’n datgan eu cefnogaeth iddo fe.

Mae Esquerra eisoes wedi dod i gytundeb i’w gefnogi, ond mae’r Sosialwyr yn dal i drafod y sefyllfa â Junts per Catalunya – y blaid sydd bellach yn allweddol i’w gobeithion nhw a’u harweinydd.