Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n golygu y gallai pobol sy’n cael trafferth talu eu morgais dderbyn cymorth er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n colli eu tai.

Gan fod cyfraddau llog, costau ynni, a chostau byw yn cynyddu, mae methu â thalu ad-daliadau morgais yn realiti sy’n wynebu llawer o berchnogion cartrefi.

Mae cynllun Cymorth i Aros Cymru, sydd â £40m o gyllid, yn darparu cymorth i bobol sydd â chartref yng Nghymru gwerth hyd at £300,000 ac yn ennill dan £67,000 y flwyddyn.

Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r cynllun yn “ddiffygiol” ac “nid rôl y Llywodraeth yw dosbarthu benthyciadau i dalu morgeisi pobol”.

400 i 450 o aelwydydd am elwa

Mae’r cynllun, sydd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru.

Gall ymgeiswyr cymwys fenthyg hyd at £147,000 er mwyn talu rhywfaint o’u morgais a gostwng eu taliadau misol.

Fydd dim rhaid dechrau talu unrhyw beth yn ôl am bum mlynedd, ond bydd rhaid i’r benthyciadau gael eu talu’n ôl o fewn pymtheg mlynedd.

Yn ôl y Llywodraeth, os yw’r holl £40m yn cael ei wario dros y flwyddyn ariannol bresennol a’r flwyddyn ariannol nesaf, gallai weld 400 i 450 o aelwydydd yn elwa, yn seiliedig ar fenthyciad o £50,000 i 60,000.

Bydd yn gweithio ochr yn ochr â chymorth gaiff ei gynnig gan ddarparwyr morgeisi drwy Siarter Morgeisi’r Deyrnas Unedig ar gyfer cwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd fforddio eu taliadau morgais.

Croesawu

Mae elusen Shelter Cymru wedi’u plesio gan y cynllun, sy’n “darparu dull ataliol” o gymorth “yn hytrach nag aros tan adeg adfeddiannu”.

“Rydym yn falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn ymateb i’n hymgyrch, oedd yn galw am fwy o gefnogaeth i berchnogion tai sy’n cael trafferth ymdopi ag ad-daliadau morgais.

“Rydym yn poeni fwyfwy am effaith cyfraddau morgais cynyddol, gafodd eu gosod yn erbyn y cynnydd mewn biliau cartrefi.

“Mae angen i ni ehangu’r rhwyd ddiogelwch ar gyfer perchnogion tai, a phobol eraill sy’n wynebu argyfwng costau tai a byw, er mwyn atal pobol rhag mynd yn ddigartref.

“Mae’r cynllun yn darparu dull ataliol i’w groesawu o ddarparu cymorth i aelwydydd cymwys, gyda chymorth o’r man ôl-ddyledion cynnar, yn hytrach nag aros tan y pwynt o adfeddiannu.

“Ond hoffem weld canllawiau syml yn cyd-fynd â’r cynllun, gyda mynediad at gyngor annibynnol, yn ogystal â chefnogaeth i bobol ar adeg o straen.”

Y Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu

Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r cynllun, gan ddweud bod angen “mynd ati o’r newydd”.

“Nid rôl Llywodraeth Cymru yw dosbarthu benthyciadau i dalu morgeisi bobol,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd tai’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi sicrhau ystod eang o gymorth yn uniongyrchol gan ddarparwyr morgeisi i gefnogi pobol.

“Mae’r cynllun yn ddiffygiol, ac yn codi sawl cwestiwn, gan gynnwys a yw’n cael ei dargedu’n gywir, a pham nad yw landlordiaid cymdeithasol yn cael eu cefnogi i fuddsoddi mewn cartrefi sydd dan fygythiad o adfeddiannu.

“Rwy’n gwrthwynebu’n sylfaenol fod Llywodraeth Cymru yn ymwneud â’r mater hwn fel hyn.

“Dylai’r Gweinidog fynd yn ôl ati o’r newydd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Bydd Cymorth i Aros Cymru yn helpu perchnogion tai cymwys i barhau i fyw yn eu cartrefi drwy ddarparu cymorth yn gynharach,” meddai’r Gweinidog Hinsawdd, Julie James.

“Mae penderfyniadau cyllidol trychinebus a wnaed gan lywodraeth Geidwadol y DU a 12 cynnydd cyfradd llog olynol Banc Lloegr yn ystod y 18 mis diwethaf wedi arwain at gostau cynyddol sylweddol o fenthyca.

“Bydd benthyciad ecwiti Cymorth i Aros Cymru yn cael ei ddefnyddio i dalu’n rhannol dyledion ac ôl-ddyledion morgais presennol i leihau’r taliadau morgais misol parhaus i swm fforddiadwy.”

Cyhoeddi cynllun i helpu perchnogion tai Cymru i dalu eu morgeisi

Gan fod cyfraddau llog, costau ynni, a chostau byw yn codi, mae methu â thalu ad-daliadau morgais yn realiti sy’n wynebu llawer o berchnogion cartrefi