Mae Aelodau’r Senedd wedi clywed bod y cynlluniau i wneud Cymru’n genedl wrth-hiliol erbyn 2030 mewn perygl, o ganlyniad i gyfyngiadau ariannol a diffyg cynrychiolaeth mewn swyddi arweinyddol.

Dechreuodd pwyllgor cydraddoldeb y Senedd glywed tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad i gynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ddydd Llun (Tachwedd 6).

Nod y cynllun gafodd ei gyhoeddi y llynedd yw mynd i’r afael â hiliaeth ddiarwybod, gwahaniaethu strwythurol, a rhagfarn sefydliadol mewn meysydd megis iechyd, addysg, tai a chyfiawnder troseddol.

Tra bod yr uchelgais wedi cael croeso eang, mae pryderon wedi’u mynegi am ei weithredu.

‘Begera, dwyn a benthyg’

Fe wnaeth Ceri Harries o Gonffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, fu’n gweithio yn y maes ers ugain mlynedd, ddisgrifio sut y bu’n rhaid “begera, dwyn a benthyg” arian ar gyfer mentrau cydraddoldeb.

Dywedodd wrth y pwyllgor ei bod hi wedi talu am rywfaint o’i phoced ei hun, gan ei fod mor bwysig iddi.

“Os ydyn ni eisiau cymryd hyn o ddifrif, mae angen i chi weithredu yn lle siarad,” meddai.

“Os ydyn ni am sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 20230, yna mae angen i ni gael yr adnoddau hynny.”

Galwodd hefyd am system cerdyn coch lle mae modd gwrthod rhoi triniaeth i gleifion sy’n sarhau staff yn hiliol os nad oes angen gwasanaethau arnyn nhw sy’n achub eu bywydau.

Cynrychiolaeth

Dywedodd David Pritchard, cyfarwyddwr gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, fod 10.9% o bobol sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion yn diffinio’u hunain fel pobol sydd o dreftadaeth ddu, ond 0.7% yn unig yw’r ffigwr ymhlith rheolwyr.

“Dw i’n credu, yn syml iawn, fel rhywun du fod angen i chi fod deg gwaith yn well er mwyn cyrraedd yr un lle,” meddai Abyd Quinn-Aziz o Gymdeithas Brydeinig Gweithwyr Cymdeithasol Cymru.

Dywedodd Pushpinder Mangat, cyfarwyddwr meddygol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), wrth Aelodau’r Senedd nad yw meddygon o dramor a’r sawl sydd â lliw croen gwahanol yn cael eu cynrychioli mewn swyddi uwch.

“Roedd hyn fwy na thebyg yn berthnasol i fi cyn i rywun fy newis i neu ofyn i fi ymgeisio ar gyfer swydd uwch,” meddai.

“Wnes i erioed feddwl y byddai e’r math o beth y byddwn i’n cael ei wneud – mae galluogi pobol i gymryd swyddi uwch yn rhan enfawr o hyn… mae’n rhaid i bawb agor drysau.”

Ychwanegodd yr Athro Pushpinder Mangat fod yna brifysgol sy’n gweithredu ar ôl canfod nad oedd 50% o’u myfyrwyr du wedi cwblhau eu cwrs.

Addysg

Dywedodd Dean Prymble, rheolwr ymgyrchoedd Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, wrth y pwyllgor fod angen i Gymru wella’r broses o recriwtio athrawon du ac Asiaidd.

“Betty Campbell oedd y pennaeth du diwethaf yng Nghymru – ddylai hynny ddim bod yn wir bellach yn 2023,” meddai.

Dywedodd Sue James o BAMEed Cymru, sy’n cefnogi addysgwyr du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, fod swm llawer mwy sylweddol o arian yn cael ei fuddsoddi yn y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Tynnodd hi sylw at y ffaith ei bod hi’n fwy anodd o lawer dysgu newid agweddau na dysgu iaith.

Fe wnaeth Yusuf Ibrahim, dirprwy bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, gofio sut y bu iddo wneud cais am swyddi dirprwy bennaeth mewn 17 o ysgolion yng Nghymru tra ei bod e mewn swydd debyg yn Llundain, ond ei fod e wedi cael dau gyfweliad yn unig, a’i wrthod am ddwy swydd arall.

Yna, anfonodd e dri chais i Fryste, cael tri chyfweliad a chael cynnig swyddi.

“Pan edrychwch chi ar gymunedau ethnig lleiafrifol, mae ganddyn nhw lefelau uchel o arloesedd, entrepreneuriaeth, dycnwch, dyfalbarhad – maen nhw eisiau gweithio’n galetach ac eisiau gwneud yn dda.

“Yr unig ateb amlwg i fi yw sicrhau bod y system yn mynnu bod y dalent yn cael ei meithrin a’i chydnabod.”