Mae un o gynghorwyr gweithgar Gwynedd yn cerdded 180 o filltiroedd er mwyn pwyso am ailagor rheilffyrdd mewnol y wlad, ond pa mor realistig yw’r alwad? 

Ynghyd â bod yn gynghorydd sir dros wardiau Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog, mae Elfed Wyn ap Elwyn yn ymgyrchydd o fri ac wedi bod yn brwydro dros nifer o faterion dros y blynyddoedd diweddar.