Cwmni cwrw yn y Cymoedd sy’n cynhyrchu’r IPA gorau ym Mhrydain, yn ôl y gwybodusion sy’n gwobrwyo…

Mae yna fragdy yn y Cymoedd sy’n benderfynol o roi llwyfan teg i’r Gymraeg ac annog eraill i ddefnyddio’r iaith.

Cafodd Bragdy Twt Lol ei sefydlu yn Nhrefforest yn 2015, a bob dydd Gwener maen nhw’n gwahodd siaradwyr Cymraeg newydd i’r bar ar y safle creu cwrw i sgwrsio.

Ac mae cael hwyl gyda’r Gymraeg ydy ganolog i’r gwaith, meddai Phil Thomas, sylfaenydd Twt Lol.