Fe fydd cylchgrawn Cymraeg newydd yn y siopau’r wythnos nesaf… 

‘Cylchgrawn hanes, gyda phwyslais mawr ar yr hyn sy’n digwydd heddiw’. Dyna fel mae un o olygyddion Hanes Byw yn disgrifio’r cyhoeddiad.

Ddiwedd y mis fe fydd posib prynu copi caled o rifyn cyntaf Hanes Byw yn y siopau ac fe fydd y cylchgrawn wedyn yn cael ei gyhoeddi bob chwarter.