Mae targedau ynni adnewyddadwy Cymru “mewn peryg heb gynllun gweithredu beiddgar”, medd adroddiad newydd.

Yn ôl RenewableUK Cymru, byddai’n bosib creu 9GW o ynni i Gymru dros y degawd nesaf drwy ddefnyddio gwynt – ond dim ond pe bai cynllun yn cael ei weithredu nawr.

Targed Llywodraeth Cymru ydy bod yr holl alw am drydan yng Nghymru’n cael ei greu gan ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Bydd y rhan fwyaf ohono’n dod drwy dyrbinau gwynt ar y tir a’r môr, a’r gweddill gan solar, llanw a dŵr.

Canfyddiadau

Er bod nifer “sylweddol” o brosiectau ynni adnewyddadwy ar y gweill, dydy tri chwarter y capasiti sydd ei angen heb gael ei adeiladu eto, medd ymchwil RenewableUK.

Mae mwy na hanner y datblygiadau mewn camau cynnar iawn, a dydyn nhw ddim yn rhan o’r system gynllunio eto.

Golyga hynny fod angen pedair gwaith y capasiti ar Gymru sydd ganddi nawr erbyn 2035, a chynyddu’r capasiti cynhyrchu o 2GW i 9GW.

Mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros gynllunio a rhoi caniatâd i bob prosiect ynni gwynt ar y tir a’r môr hyd at 350MW, ac o ystyried eu targedau mae RenewableUK Cymru’n galw am gynllun clir a chydweithio rhwng y llywodraeth a’r diwydiant.

Ers i Lywodraeth Cymru gael dechrau rhoi caniatâd i ddatblygiadau ynni o bwysigrwydd cenedlaethol yn 2016, dim ond un fferm wynt ar y tir sydd wedi cael ei chymeradwyo, a chymerodd hi bron i ddwy flynedd i’r penderfyniad gael ei wneud.

Mae 80% o’r ceisiadau ar gyfer datblygiadau ynni o bwysigrwydd cenedlaethol yn adnewyddadwy, ac ers 2016 mae 41% ohonyn nhw wedi cael eu gwrthod.

O’r naw sydd wedi cael eu gwrthod, fe wnaeth 44% ohonyn nhw gael eu gwrthod gan y Gweinidog yn groes i argymhellion yr arolygwyr.

‘Penderfyniadau sydyn, cyson ac eglur’

Daw canfyddiadau RenewablesUK Cymru wrth i gynhadledd Dyfodol Ynni Cymru 2023 gael ei chynnal yng Nghasnewydd heddiw a fory (dydd Llun, Tachwedd 6 a dydd Mawrth, Tachwedd 7).

“Ynni’r gwynt ydy asgwrn cefn uchelgeisiau sero net Cymru, ond mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad oes digon yn cael ei wneud i faethu twf yr asgwrn cefn hollbwysig hwnnw,” meddai Jess Hooper, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru.

“O ganlyniad, mae’n beryg na fydd Cymru’n cyrraedd y targedau ar gyfer cynhyrchu ynni yn 2035.

“Am flynyddoedd, mae cysylltedd grid gwael, dim digon o adnoddau a system gynllunio anghyson wedi amharu ar y cynnydd ac atal datblygwyr rhag cyflwyno prosiectau ynni gwynt mawr eu hangen.

“Mae awyrgylch polisi mwy cadarnhaol yn datblygu nawr yng Nghymru, er enghraifft bydd y Bil Seilwaith (Cymru) yn atgyfnerthu’r broses gynllunio.

“Fodd bynnag, rydyn ni angen penderfyniadau sydyn, cyson ac eglur a buddsoddiad yn ein grid er mwyn dechrau ein siwrne i sero net.

“Oni bai ein bod ni’n mynd i’r afael â’r materion hyn, mae’n beryg na fydd prosiectau gwynt Cymru’n datblygu’n fwy na breuddwyd.”