Ar drothwy Sul y Cofio (Tachwedd 11), bydd rhai pobol yn gwisgo pabi gwyn, ac nid pabi coch.

Ers 90 mlynedd, mae’r pabi gwyn wedi bod yn symbol o heddwch.

Eleni, gyda’r hyn sy’n digwydd yn Ewrop, Affrica a’r Dwyrain Canol, mae ei neges mor bwysig nag erioed, medd Cymdeithas y Cymod.

Mae’r pabi gwyn yn dangos parch i holl ddioddefwyr rhyfel yn cynnwys unigolion, teuluoedd a phlant ar bob ochr.

Mae hefyd yn cynrychioli ymrwymiad dwfn i weithio dros heddwch, tuag at fyd lle mae gwrthdaro’n cael ei ddatrys mewn ffyrdd di-drais.

Yn wahanol i’r pabi coch, sy’n dueddol o gofio milwyr o wledydd Prydain sydd wedi colli eu bywydau ar faes y gad, mae’r pabi gwyn yn canolbwyntio ar:

  • adeiladu diwylliant heddychlon
  • cofio holl ddioddefwyr rhyfel
  • herio militariaeth

Tri sydd yn penderfynu gwisgo pabi gwyn eleni yw’r Archdderwydd Mererid Hopwood, y gwleidydd Mabon ap Gwynfor, a Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod.


Mererid Hopwood

“I mi, mae symbol y Pabi Gwyn yn atgyfnerthu’r cydymdeimlad a’r cof am bawb a gollwyd mewn rhyfel.

“Mae hefyd yn atgyfnerthu’r alwad arnom i droi o’r ymladd yn y ffosydd a maes y gad i gyd-drafod wrth y bwrdd a’r gadair.

“Dyma yn y pendraw yw celfi heddwch.

“Heddiw, fel erioed.”

Mabon ap Gwynfor

“Mae Sul y Cofio yn ddyddiad pwysig yn ein calendar ni oll.

“Mae’n gyfle i goffáu pawb a laddwyd ac a ddioddefodd yn sgil pob rhyfel.

“Wrth gofio mae’n ein atgoffa ni o wastraff rhyfel.

“Mae trawma rhyfel yn parhau am genhedlaethau y tu hwnt i’r rhai a gollodd eu bywydau neu a ddiofeddodd yn uniongyrchol yn sgil y trais.

“Mae’n ein hatgoffa nad ydy rhyfel yn datrys anghytundeb ac mae dim ond trwy drafod gyda’n gilydd y gallwn ni ffeindio llwybr ymlaen.

“Mae’n atgyfnerthu y galw am Heddwch a chymod.

“Am y rhesymau yma rwy’n gwisgo y pabi gwyn er mwyn coffáu pawb, a galw am a datgan yn glir ein bod yn deisyfu heddwch.”

Rhun Dafydd

“Dwi’n gweld y pabi gwyn yn symbol o obaith i ni fel dynoliaeth, wrth goffáu holl ddioddefwyr rhyfel o bob gwlad.

“Mae’n pwysleisio erchyllterau gwrthdaro gan sicrhau ein bod ni’n ceisio gorau i beidio ail adrodd hanes.”