Bydd Cyngor Sir Powys yn derbyn bron i £700,000 o grant er mwyn helpu i reoli llifogydd dros gyfnod o ddwy flynedd.

Fel rhan o Raglen Llywodraeth Cymru, Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol, bydd y Cyngor yn derbyn £676,728 er mwyn darparu atebion rheoli llifogydd sy’n seiliedig ar natur mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd.

Mae’r rhaglen yn dilyn y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud o dan y rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol 2020-23 flaenorol.

Y prosiectau

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pedwar cynllun gwahanol ar draws y sir, sef

  • Cynllun 2 Rheoli Llifogydd yn Naturiol yr Afon Uwch Tefeidiad – £200,000

Mae’r cynllun hwn yn cael ei ddatblygu gan Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren (SRT), ac mae’n parhau â’r gwaith gafodd ei gyflawni o dan raglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol 2020-23.

Gan weithio gyda thirfeddianwyr, mae’n defnyddio ystod eang o ffyrdd o reoli llifogydd yn naturiol gan gynnwys argaeau coediog sy’n gollwng, creu ardaloedd wedi’u sgrafellu, byndiau a phyllau, plannu gwrychoedd a choed traws-lethr a chyflwyno coetir afonol.

Bydd pob un yn darparu budd o leihau perygl o lifogydd yn y dalgylch, gan ganolbwyntio’n bennaf ar Drefyclo, meddai’r Cyngor.

  • Prosiect SiOL (Datrys problemau ymdrin â Thir Anhydrin) – £191,728

Dan arweiniad Sefydliad y Gwy a’r Wysg (WUF), mae’r prosiect SiOL wedi’i rannu’n ddau becyn.

Yn y pecyn Onnau Fach (Llangatwg), mae WUF yn gweithio gyda’r Grŵp Llifogydd Cymunedol lleol i edrych ar osod mesurau rheoli llifogydd yn naturiol amrywiol, megis argaeau coediog sy’n gollwng, waliau ffin sy’n gollwng, pyllau, gwrychoedd traws-lethr a phlannu coetiroedd, ac ati.

Yn y pecyn Wysg Uchaf, mae’r WUF yn gweithio gyda thirfeddianwyr wrth lednentydd Nant Bran ac Ysgir i gynnal ymarfer astudio sy’n dylanwadu ar ba ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol sy’n bosib eu cyflwyno yn y dyfodol, ynghyd â rhoi gwybod i dirfeddianwyr pa opsiynau Cynllun Ffermio Cynaliadwy y gallen nhw wneud cais amdanyn nhw.

  • Cynllun Argae Coed sy’n Gollwng ar Raddfa Dalgylch £85,000

Bydd y cynllun, gaiff ei ddarparu gan Tirweddau Cymru, yn gweithio gyda thirfeddianwyr i dreialu ymyriadau strwythurau pren sy’n gollwng ac sy’n risg isel a chost isel mewn gwahanol safleoedd ym Mhowys, yn amodol ar gytundeb cymunedol.

Y nod yw hybu sgiliau ac ymwybyddiaeth ynghylch gosod mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar gyfer y cymunedau yn yr ardaloedd hynny.

  • Cynllun Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar gyfer Nant Abel ac Afon Cain £200,000

Mae’r cynllun hwn hefyd yn cael ei ddatblygu gan yr SRT ac mae’n estyniad i’r gwaith gafodd ei gwblhau o dan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy.

Mae ystod o fesurau wedi’u cynllunio i gynnwys rhwystrau sy’n gollwng, plannu coed, gwrychoedd a gwlyptir, ac mae’r ffocws ar fod o fudd i gymunedau fel Llanfyllin a Llanfechain.

‘Edrych ymlaen at ddod o hyd i atebion ymarferol’

“Rydym i gyd yn ymwybodol o effeithiau dinistriol llifogydd, ac yn edrych ymlaen at gydweithio â phartneriaid a chymunedau i ddod o hyd i atebion ymarferol, cynaliadwy sy’n seiliedig ar natur i leihau’r perygl o lifogydd ledled Powys,” meddai’r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach, wrth groesawu’r newyddion am ddyraniad y grant.

“Mae’r gwaith o Reoli Llifogydd yn Naturiol, tra’n darparu budd o ran rheoli perygl llifogydd, hefyd yn cefnogi gwelliannau amgylcheddol ehangach trwy gyflwyno cynefinoedd bywyd gwyllt newydd a gwell ac arferion rheoli tir mwy cynaliadwy yn ein hardaloedd gwledig.”