Mae galwadau am weinidog penodedig i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.

Daw hyn wrth i ffigurau ddangos bod 28% o holl blant Cymru’n byw mewn tlodi incwm cymharol – sy’n cyfateb i wyth plentyn ym mhob 30.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn y Senedd sy’n galw am sefydlu’r gweinidog penodedig ar gyfer babanod, plant a phobol ifanc, er mwyn ymateb yn fwy cydlynol i dlodi plant.

Mae adroddiad y Pwyllgor, Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well, yn argymell adolygiad trylwyr o ddulliau Llywodraeth Cymru wrth iddi adolygu ei strategaeth ddrafft tlodi plant newydd.

‘Rydyn ni angen rhoi diwedd ar dlodi plant’

“Mae mwy o blant a phobol ifanc yn byw mewn tlodi nag unrhyw grŵp oedran arall – rydyn ni angen rhoi diwedd ar dlodi plant,” meddai Jenny Rathbone, cadeirydd y pwyllgor yn y Senedd.

“Does gan blant ddim reolaeth dros eu hamgylchiadau; mae’r caledi maen nhw’n ei wynebu yn cael ei orfodi arnyn nhw.

“Mae’r anghyfiawnder hwn yn un difrifol nad yw’n cyd-fynd ag unrhyw wlad sy’n honni ei bod yn hybu tegwch.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru osod targedau heriol a realistig i’w hun a phenodi gweinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros y prif ffactorau er mwyn lleihau tlodi plant.

“Rydym yn gwybod, o’r gwaith rhagorol a wnaed mewn gwledydd eraill, fod gofal plant ac addysg gynnar yn hanfodol ac rydym am i Lywodraeth Cymru wario arian ychwanegol yn darparu gofal plant cyson a fforddiadwy.

“Heddiw, rydym ni’n nodi chwech argymhelliad clir i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru gyda’r nod o roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.”

Penodi gweinidog penodedig

O dan drefniadau presennol Llywodraeth Cymru, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â thlodi plant, tra bod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn arwain ar faterion lles plant, a’r Gweinidog Addysg yn gyfrifol am addysg a chymwysterau.

Mae Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod “pob aelod o’r Cabinet yn gyfrifol am hawliau plant”.

Mae’r pwyllgor yn galw am un gweinidog i fod yn atebol am les ac hapusrwydd babanod, plant a phobol ifanc.

Dylai’r rôl hon gynnwys cyfrifoldeb cyffredinol am fynd i’r afael â thlodi plant a gweithredu hawliau plant, ynghyd â meysydd allweddol eraill fel gofal plant, addysg a chefnogi teuluoedd.

Gosod targedau clir

Mae tystiolaeth gan arbenigwyr fel yr NSPCC a Sefydliad Bevan, a data o wledydd eraill wedi dangos bod yn rhaid cael targedau clir i ganolbwyntio’r ffocws ar leihau tlodi plant.

Mae’r adroddiad heddiw yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru osod targedau dros dro a rhai hirdymor ar gyfer lleihau tlodi plant, gan ddysgu o’r gwaith a wnaed mewn gwledydd eraill fel yr Alban, Norwy a Seland Newydd.

Mae’r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau, gan argymell y dylai’r llywodraeth anelu at ostyngiadau uchelgeisiol a realistig i blant sydd mewn tlodi cymharol, tlodi absoliwt, amddifadedd materol a thlodi parhaus.

Pwysigrwydd gofal plant

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gref gan weithwyr proffesiynol yn Norwy yn pwysleisio pwysigrwydd gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar.

“O’m safbwynt i o leiaf, wn i ddim am unrhyw adnodd sy’n fwy effeithiol nag addysg plant yn y blynyddoedd cynnar, sy’n dod â nhw i mewn i gyd-destun gofal plant, lle maen nhw’n cael profiadau dysgu anogol sy’n gosod sylfaen ar gyfer dysgu am oes, sy’n bwysig iawn,” meddai’r Athro Mari Rege o Brifysgol Stavanger, sy’n arwain grŵp arbenigol ar leihau tlodi plant.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu gwariant ar ofal plant yn Lloegr, ac felly bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyllid ychwanegol.

Mae’r pwyllgor yn galw am ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ariannu gofal plant cyson a fforddiadwy ac iddi ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwneud hyn erbyn mis Gorffennaf nesaf.

Bydd gofyn nawr i Lywodraeth Cymru ymateb i adroddiad y pwyllgor.