Mae’r Blaid Werdd wedi ychwanegu eu lleisiau at y rheiny sy’n galw am gadoediad yn Gaza.

Daeth yr alwad gan yr arweinydd Anthony Slaughter wrth iddo fe agor cynhadledd y blaid yng Nghaerdydd.

Dywed ei fod yn “cefnogi’r alwad am gadoediad ar unwaith yn llwyr”.

“Rhaid i ladd sifiliaid yn ddiwahân a’r gosb gilyddol yn erbyn y boblogaidd ddod i ben nawr,” meddai.

“Rhaid rhyddhau’r holl wystlon heb amod.”

Costau byw ac annibyniaeth

Yn ystod ei araith, fe gyfeiriodd hefyd at y lefelau uchel o anghydraddoldeb yng Nghymru o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, y ffaith fod un ym mhob tri o blant yn byw mewn tlodi, a bod teuluoedd yn ei chael hi’n anodd gwresogi eu cartrefi.

“Dyna pam fy mod i’n falch fod ein plaid yn rhan annatod o’r mudiad annibyniaeth i Gymru,” meddai.

“Dim ond y tu allan i’r Wladwriaeth Brydeinig y gall Cymru wireddu ei photensial llawn, drwy ddatrys yr heriau enfawr sy’n ein hwynebu ni fel cenedl.”

Fe fu’n galw hefyd am ddatrys yr argyfwng tai.

“Ar ben biliau cynyddol, mae gormod o bobol yn wynebu’r cynnydd mewn rhent sydd ar y gorwel drwy’r sector rhentu preifat nad yw’n cael ei reoli,” meddai, gan alw am gyflwyno rheoliadau rhent.