‘Duw piau edau bywyd, a’r hawl i fesur ei hyd’? Yn ôl Dignity in Dying, mae’r rhan helaethaf (84%) ohonom yn credu mai ni sydd piau edau ein bywyd, a phan fo’r bywyd hwnnw’n darfod mai ein hawl ninnau yw mesur ei hyd.
Debbie Purdy; Diane Pretty; Omid T; Tony Nicklinson; Paul Lamb; Noel Conway… Bu’r rhain i gyd yn brwydro am yr hawl i farw. Defnyddiaf Noel Conway fel enghraifft o’r frwydr fu’n gyffredin iddyn nhw i gyd a sawl un arall.
Yn 67 mlwydd oed, cafodd e ddiagnosis o glefyd niwronau motor yn 2014. Hyd ei farw yn 2021, bu’n ymgyrchu i newid y ddeddfwriaeth gyfredol er mwyn caniatáu i unigolyn – sydd yn llusgo byw – i ddod â’i fyw i derfyn, neu i gael cymorth arbenigol i wneud hynny. Mynnai: “I have a right to determine how and when I die and I want to do so when I have a degree of dignity remaining to me.” Cafodd, a phob un o’r bobol gaiff eu henwi uchod, eu cefnogi gan y mudiad Dignity in Dying. “Noel’s experience sadly echoes that of hundreds of other terminally ill people in this country – choice and control at the end of life is something that everyone should be able to have,” meddai Sarah Wooton, Prif Weithredwr Dignity in Dying.
Gellid dadlau, yn naturiol ddigon, mai cwbl anfoesol yw pob lladd; ond, onid yw lladd yn anfoesol, oherwydd fod y person sydd yn cael ei ladd heb ddymuno cael ei ladd? Os yw person yn dymuno cael ei ladd, nid yw’r lladd, o’r herwydd, yn anfoesol. Gan ychwanegu at hyn, nodaf y ddadl mai mater o ryddid ewyllys yw fod hawl gan unigolyn i ddod â’i fyw i derfyn, neu yn achos Noel Conway, i ofyn i feddyg ei gynorthwyo i wneud hynny. Ni ddylid amddifadu’r un bod dynol o’r rhyddid hwn, byth. Hanfod ein hurddas yw fod gennym reolaeth dros amseru a dull ein marw. Wrth amddifadu person yn ei waeledd olaf o’r hawl i benderfynu pryd, a sut, i ddod â’i fywyd i ben, amddifadwn ef o bob urddas. Ond ydi derbyn cymorth i farw, go iawn, yn fynegiant o ryddid ewyllys? Yn wir, gellid dadlau bod derbyn cymorth i farw yn amddifadu’r unigolyn rhag pob rhyddid a chyfle! Nid mynegiant o ryddid ewyllys yw dewis marw, ond y gwrthwyneb hollol.
Myn rhai athronwyr nad oes ynom reddf naturiol i fyw. Ac o’r herwydd, trugaredd yw caniatáu i unigolyn yn ei waeledd olaf – ac yntau yn ei iawn a llawn bwyll – o dan amodau diogel, yr hawl i farw neu i dderbyn cymorth i farw. Ond eto mae ‘ond’! Oni ddylid, yn hytrach, sicrhau fod poen yn cael ei rheoli, hyd yn oed os mai sgil effaith y cynyddu graddol o boenladdwyr yw cyflymu diwedd byw? Wrth ymateb i hyn, dylid gofyn o ddifri a oes gwahaniaeth rhwng prysuro marw’r claf yn anuniongyrchol a gwneud hynny’n uniongyrchol drwy estyn iddo’r hawl i ddod â’i fyw i derfyn, neu i arall ei gynorthwyo?
Beth ddywed y ffydd Gristnogol am hyn oll? Crëwyd ni gyd ar ddelw, ac yn ôl llun Duw (Genesis 1:26) – dyna hyd a lled, uchder a dyfnder y bywyd dynol. Gwraidd ein gwerth fel person yw, nid mesur pobol eraill ohonom nac ychwaith ein mesur personol ohonom ni’n hunain, ond deall Duw am werth ein byw. Nid ni sydd â’r hawl i ddiffodd y bywyd a grëwyd gan Dduw, boed bywyd arall, neu’n bywyd ein hunain. Gan dderbyn grym y ddadl hon, mae’n rhaid codi cwestiwn y merthyron. Ildiodd y merthyr ei fywyd o’i wirfodd – bywyd a grëwyd ar ddelw, ac yn ôl llun Duw – er clod i Dduw. Ond marw er mwyn cadarnhau gwerth bywyd mae’r merthyr! Rhaid cofio nad gwadu gwerth bywyd mae’r merthyr; y sawl sydd yn lladd y merthyr sydd yn gwadu gwerth bywyd.
Mae’r Cristion yn credu nad bedd mo diwedd byw; mae marw’n ddechreuad newydd. Onid yw hyn, ynddi’i hun, yn ddadl o blaid hawl unigolyn yn ei waeledd olaf i ddod â’i fyw i derfyn, yn arbennig os yw’r unigolyn, oherwydd ei gyflwr, bellach yn gwbl analluog i ymroi i’r gwaith o brysuro dyfodiad teyrnas Duw?
Wedi pendilio yn ôl ac ymlaen, gellid dadlau’n ddigon diogel mai hanfod neges ffydd yw fod ein bywyd yn amhrisiadwy i Dduw. O’r herwydd, yn a thrwy eni, gweinidogaeth, marw ac atgyfodiad Iesu, daeth Duw i berthynas annatod â’r ddynoliaeth, ac o’r herwydd mae bywyd – fy mywyd i a’th fywyd dithau – yn gysegredig. Nid ar chwarae bach, felly, y dylid caniatáu i berson, o’r amcanion gorau, ddod â’i fyw i derfyn, gan mai eiddo Duw yw pob bywyd dynol.
Dadleuon ffydd yw’r rhain wrth gwrs, ac fe wnân nhw synnwyr dim ond i berchen ffydd. Nid oes disgwyl iddyn nhw fod yn berthnasol i bobol nad ydyn nhw’n credu’r un fath, neu’n credu o gwbl; ond dw i’n gwbl sicr fod y ddeddfwriaeth mae mudiadau fel Dignity in Dying yn gwthio amdani yn tyllu i’r seiliau y cafodd ein diwylliant ei adeiladu arnyn nhw, gan araf grebachu ein hawydd i fod yn foesol, a’n gallu i wybod beth yw bod yn foesol. Mae hyn yn berthnasol i bawb, boed yn berchen ffydd ai peidio.
I mi, felly, eithriadol beryglus yw’r symud tawel hwn tuag at ddeddfwriaeth fydd yn caniatáu i unigolyn – sydd yn llusgo byw – yr hawl i ddod â’i fyw i derfyn, neu i gael cymorth arbenigol i wneud hynny. Mae ein byw yn drysor gan Dduw. Duw sydd biau fy mywyd i, ac nid oes gen i mor hawl i ddileu’r bywyd hwnnw, na gofyn i arall i’n cynorthwyo i wneud hynny. Dyma fy safbwynt, safbwynt gaiff ei fynegi â’m hanwyliaid bob un, a finnau’n holliach. Pe bai fy amgylchiadau’n newid, a’u hamgylchiadau hwythau’n newid, a fuasai fy safbwynt yn newid? Wel, cystal cyfaddef. Efallai’n wir.