Ar drothwy Araith y Brenin ddydd Mawrth (Tachwedd 7), mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi “cynllun teg ac uchelgeisiol i Gymru”.
Dyma gyfres o bump o fesurau maen nhw’n dymuno’u gweld yn cael eu cynnwys yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, byddai’r cynllun yn “lleddfu costau byw” ac yn “gosod y seiliau ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus i Gymru”.
Mae’r mesurau’n cynnwys disodli Fformiwla Barnett, sy’n pennu faint o arian mae Llywodraeth Cymru yn ôl y boblogaeth, gyda system sy’n seiliedig ar anghenion.
Mae’r system bresennol yn agored i “gamddefnydd gwleidyddol” medd Liz Saville Roberts, gan gyfeirio at y ffaith fod Cymru’n colli allan ar arian canlyniadol o brosiectau rheilffyrdd Lloegr, er bod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn cyllid llawn.
Mesurau Plaid Cymru
Yn ôl Plaid Cymru, byddai cynllun “teg ac uchelgeisiol” i Gymru’n cynnwys:
- Bil Ynni Fforddiadwy: tariff cymdeithasol ynni i helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gan sicrhau prisiau gostyngol i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau, gan helpu aelwydydd a rhoi hwb i’r economi
- Bil Cyllido Teg: disodli Fformiwla Barnett, gan sicrhau bod Cymru’n derbyn yr arian sydd ei angen ar gyfer prosiectau isadeiledd pwysig ac arian canlyniadol teg o brosiectau yn Lloegr, e.e. HS2
- Bil Cyfiawnder i Gymru: trosglwyddo pwerau dros gyfiawnder i Gymru, yn unol â galwadau trawsbleidiol yn y Senedd, creu Comisiynydd Dioddefwyr a chanolbwyntio ar atal troseddau
- Bil Nawdd Cymdeithasol: datganoli nawdd cymdeithasol, cyflwyno budd-daliadau newydd, creu system decach a mwy effeithlon i aelwydydd
- Bil Ystad y Goron: dod â rheolaeth o Ystad y Goron, sy’n werth £853m, yn ôl i Gymru, er budd cymunedau lleol, ac ariannu cronfa gyfoeth
‘Prif Weinidog sy’n rhy brysur yn canlyn biliwnyddion i boeni’
“Mae pobol yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd, ac mae’r Prif Weinidog [Rishi Sunak] yn rhy brysur yn canlyn biliwnyddion i boeni,” meddai Liz Saville Roberts.
“Ar gyfer yr Araith hon gan y Brenin, mae Plaid Cymru’n galw am gynllun teg ac uchelgeisiol i Gymru, fyddai’n lleddfu costau byw ac yn gosod y seiliau ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.
“Mae Plaid Cymru’n galw am gymorth biliau ynni wedi’i dargedu, ar ffurf tariff cymdeithasol i’w gynnwys yn Araith y Brenin.
“Mae’r nifer fwyaf erioed o bobol yn ceisio cymorth dyled ynni yng Nghymru, gan danlinellu effaith biliau ynni drudfawr ar bobol o bob agwedd ar fywyd.
“Mae angen ffyrdd arloesol arnom o sicrhau prisiau biliau ynni teg i bawb.
“Byddai Araith y Brenin sy’n deg ac uchelgeisiol yn mynd i’r afael â’r anghyfiawnderau difrifol sy’n cael eu hwynebu yng Nghymru.
“Fel cenedl sy’n gyfoethog o ran adnoddau naturiol, dylen ni fod yn manteisio ar ynni gwyrdd.
“Yn hytrach, mae’r elw o ynni adnewyddadwy ar Ystad y Goron, sy’n werth £853m, yn cael eu tynnu allan o Gymru i Lundain.
“Byddai ein Bil Ystad y Goron yn cywiro hyn, ac yn dod â miliynau o bunnoedd i’w buddsoddi ar gyfer pobol Cymru.
“Mae’r Araith hon hefyd yn gyfle i sefydlogi arian Cymru, drwy ddisodli Fformiwla Barnett gyda fformiwla cyllido sy’n seiliedig ar angen.
“Fel rydyn ni wedi’i weld o ran saga cyllido HS2, mae Cymru’n colli arian o ganlyniad i fanteisio’n wleidyddol ar y fformiwla.
“Bydai setliad cyllido sy’n ceisio mynd i’r afael â’n tangyllido ers degawdau gan San Steffan yn gosod y seiliau ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus i Gymru.”