Mae hi’n Wythnos Gwin Cymru yr wythnos hon (Mai 24 – Mehefin 2), ac mae cynhyrchwyr gwin ar draws y wlad yn annog pobol i roi cynnig ar win lleol yn ystod yr wythnos.

Erbyn hyn, mae dros 30 o winllannoedd a mwy nag ugain math gwahanol o rawnwin yn cael eu tyfu ledled y wlad gyda Chymru’n cynhyrchu gwin gwyn, coch a rhosliw – rhai llonydd a phefriog.

Mae amryw wedi ennill gwobrau rhyngwladol.

Mae’r rhan fwyaf o winllannoedd wedi’u lleoli yn ne a gorllewin Cymru, ond mae yna nifer ger yr arfordir yng ngogledd Cymru hefyd, gan gynnwys Conwy, Dyffryn Clwyd, ac Ynys Môn.

Gwinoedd Gwinllan y Dyffryn yn Nyffryn Clwyd

Cafodd Gwinllan y Dyffryn yn Nyffryn Clwyd ei sefydlu gan Gwen a Rhys Davies yn 2019 ac, ers hynny, maen nhw wedi ennill sawl gwobr am eu gwinoedd. Maen nhw’n cynhyrchu gwin gwyn, rosé, coch a phefriog, ac yn cynnig teithiau o gwmpas y gwinllannoedd a chyfle i flasu’r gwinoedd wedyn.

“Yn aml iawn mae pobl yn synnu bod yna winllannoedd yng Nghymru. Erbyn hyn mae yna dros 30 ohonon ni ac mae pob un efo stori ddiddorol, a gwahanol winoedd i flasu,” meddai Gwen Davies.

“Mae ymwelwyr yn mwynhau dysgu am y gwinwydd a’r safle sy’n creu amodau i dyfu grawnwin o safon dda. Wedyn mae’n bleser clywed yr adborth am y gwinoedd – weithiau mae pobl yn synnu pa mor dda ydyn nhw!”

Gwin gwyn Solaris Gwinllan y Dyffryn

“Diwydiant sy’n ffynnu”

Cafodd gwinllan a pherllan Pant Du ei sefydlu yn 2007, ar lethrau Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd yn edrych i lawr am y môr.

“Rydym bellach yn tyfu 24 math gwahanol o rawnwin yng Nghymru – megis Rondo, Solaris, Siegerrebe, Pinot Noir, Seyval Blanc a Cabarnet Franc,” meddai Richard Wyn Huws, perchennog Pant Du.

“Mae gwin pefriog o Gymru yn boblogaidd iawn erbyn hyn, ac fel ei gwinoedd llonydd, wedi ennill mewn cystadlaethau mawr rhyngwladol.

“Mi fyddwn i yn annog pobol i roi cynnig ar eu gwinoedd lleol wythnos yma a chodi llwnc destun i ddiwydiant sy’n ffynnu ac yn mentro creu gwinoedd ychydig yn wahanol.”

Gwinllan Pant Du yn Nyffryn Nantlle

‘Rhywbeth unigryw’

Llinos Rowlands ydy perchennog siop win Dylanwad yn Nolgellau.

“Yr wythnos yma, beth am gefnogi ein diwydiant gwin yng Nghymru – sy’n dal ei dir ar y llwyfan cenedlaethol,” meddai.

“Rydym ni’n gwerthu dewis eang o winoedd Cymreig yn ein siop yn Nolgellau, a bydd gennym nifer o gynigion arbennig trwy’r wythnos i ddathlu.

“Fel gwlad sy’n dechrau dod yn enwog am ei gwin ‘bwtîc’, rydym wir yn credu fod gan winoedd o Gymru rywbeth unigryw i’w gynnig.”

Mae Prynu’n Lleol yn gynllun gan Gyngor Gwynedd, sy’n annog pobol i wario’n lleol er mwyn hybu’r economi yn yr ardal.