Dydi’r ŵyl fwyd arbennig hon byth yn siomi. Roedd hi’n fwy nag erioed eleni, gyda chynnyrch mwy amrywiol na’r un flwyddyn flaenorol. Dyma gyfle euraid i gefnogi’r busnesau bach hynny sydd o wir ansawdd yn lleol. Roedd llawer o stondinau bwyd ffres yn hytrach na pharod wedi’u lleoli yn Cei Llechi ac wrth y castell; popeth o fwyd môr i gigoedd gwahanol, a bwyd llysieuol. Roedd rhywbeth at ddant pawb!

Cig eidion Wagyu aeth â’m bryd innau eleni, ac roeddwn am ei anrhydeddu. Mae eidion Wagyu yn arbennig oherwydd bod gwythiennau o fraster yn rhedeg drwyddo. Mae’r gwartheg wedi dilyn deiet arbennig, sy’n golygu bod y braster wedi’i wasgaru yn gydradd drwy’r cig, sy’n rhoi effaith marmor ar edrychiad y stêc a blas anfarwol.

Defnyddiais ‘BBQ rub’ Tir ar y tatws, halen nionyn coch ac olew olewydd tsili poeth.