Morgannwg v Sussex: Buddugoliaeth gynta’r sir Gymreig

Dechrau addawol yn eu hail gêm yn yr ymgyrch

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Sussex i Erddi Sophia yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Mehefin 2, 2.30yp), gan obeithio taro’n ôl ar ôl y golled yn erbyn Surrey nos Wener (Mai 31).

Colli o 19 rhediad wnaeth y sir Gymreig yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth, ar ôl gorfod cwrso 201 i ennill – diolch i 76 gan Jamie Smith i’r Saeson – er i Dan Douthwaite, y bowliwr gorau i’r sir Gymreig ar y noson, gipio dwy wiced.

Roedd hi’n ymdrech arwrol gan y batwyr hefyd i geisio cyrraedd y nod, gyda chyfraniadau gwerthfawr gan Marnus Labuschagne (58), Colin Ingram (50) a Chris Cooke (40), ond roedd ganddyn nhw ormod o waith i’w wneud yn dilyn cyfnodau gwael yn y maes, gyda phedwar daliad wedi’u gollwng.

Mae Morgannwg wedi enwi’r un garfan ar gyfer y ddwy gêm agoriadol.

O ran yr ymwelwyr, byddan nhw’n gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Swydd Gaerloyw yn eu gêm agoriadol.

Ond mae Tom Clark allan ag anaf i’w ysgwydd o hyd.

‘Awchu’

“Os edrychwch chi ar y garfan a’r tîm sydd gyda ni, mae gyda ni opsiynau sbin, sêm, ac rydyn ni’n batio’n eithaf dwfn gyda Timm [van der Gugten] yn rhif naw a Mason [Crane] yn rhif deg,” meddai Colin Ingram wrth golwg360 ar ôl y gêm yn erbyn Surrey.

“Yn yr ystyr hynny, dw i’n credu ein bod ni’n dîm llawer mwy cyflawn.

“Ond wedi dweud hynny, rhaid i chi fynd a bod yn gystadleuol yn y canol. Dw i’n credu ein bod ni’n teimlo’n siomedig gan y gallen ni fod wedi mynd ac ennill y gêm honno, hyd yn oed yn erbyn tîm mawr fel Surrey.

“Ond bydd hynny’n gwneud i ni awchu wrth fynd i mewn i’r un nesaf.

“Fe wnaethon ni ddysgu tipyn y llynedd, a gwneud nifer o gamgymeriadau, ond dysgon ni lawer am sut rydyn ni eisiau chwarae criced. Eleni, mae’n fater o weithredu ar hynny.

“Rydyn ni’n brifo heno, ond mae hynny wastad yn beth da.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, M Crane, T van der Gugten, J McIlroy, H Podmore, B Kellaway, W Smale, A Gorvin

Carfan Sussex: T Alsop, J Carson, J Coles, H Crocombe, F Hudson-Prentice, D Hughes, D Lamb, A Lenham, N McAndrew, T Mills (capten), O Robinson, J Simpson, H Ward

17:53

‘Buddugoliaeth glinigol’

“Y noson o’r blaen, doedden ni ddim ar ein gorau o ran y maesu ac mae’n debyg fod hynny wedi costio’r gêm i ni,” meddai Mason Crane, y troellwr coes gipiodd ddwy wiced am 14 i Forgannwg.

“Ond fe wnaethon ni roi popeth yn iawn heddiw, ac mae’n destun balchder ein bod ni wedi dod allan a pherfformio fel wnaethon ni a chael buddugoliaeth glinigol.

“Dangosodd Sam Northeast lawer o aeddfedrwydd. Mae e’n dweud wrtha i o hyd ei fod e’n unfed ar ddeg ar restr y prif sgorwyr yn y Blast, ac fe ddangosodd e pam heddiw.”

17:23

Ergyd chwech gan Nathan McAndrew i orffen y gêm. Sussex wedi cyrraedd 158 am chwech.

Buddugoliaeth i Forgannwg o 25 rhediad. 

17:18

Dyna ni! 

Dydy chwech oddi ar bob pelen ddim am fod yn ddigon i Sussex, hyd yn oed.

Maen nhw’n 140 am chwech – 44 rhediad yn brin.

Y belawd olaf i ddod gan Timm van der Gugten.

17:12

WICED!

Maesu gwych gan Labuschagne ar y ffin wrth estyn am yn ôl, jyglo’r bêl, cadw ei gydbwysedd, taflu’r bêl yn ôl ar y cae a’i dal hi.

Danny Lamb allan am wyth. Ail wiced i Mason Crane.

Sussex 120 am chwech (17.2 pelawd).

17:10

Tair pelawd yn weddill.

Sussex 119 am bump. 65 arall sydd ei angen – neu 22 y belawd.

Rhaid canmol bowlio Dan Douthwaite eto heddiw, ac yntau wedi bowlio’n dynn.

17:07

Perfformiad campus gan Forgannwg heddiw, yn dangos bod cipio wicedi ar adegau pwysig yn allweddol. Doedd y nod ddim yn un swmpus i Sussex, ond dydyn nhw ddim wedi gallu adeiladu momentwm wrth golli wicedi’n rhy aml.

17:03

Ar ôl 15 pelawd, mae Sussex wedi cyrraedd 106 am bump.

78 yn rhagor i ennill oddi ar 30 pelen. Morgannwg yn agos at gipio buddugoliaeth, rhaid dweud.

16:53

WICED!

John Simpson allan, wedi’i ddal ar y ffin ar ochr y goes, a Labuschagne wedi rhedeg cryn bellter i’w dal hi’n isel. Wiced i’r troellwr coes Mason Crane.

Sussex 85 am bump ac mewn trafferth.

16:49

WICED!

Daliad i Sam Northeast oddi ar ergyd uchel. Wiced i Dan Douthwaite.

Y batiwr Fynn Hudson-Prentice allan am dri, a Sussex yn 80 am bedair ar ôl 11 pelawd. 104 arall i ennill oddi ar naw pelawd, felly mae ganddyn nhw waith i’w wneud.

16:44

HANNER FFORDD

Sussex 76 am dair

Ar yr un adeg, roedd Morgannwg yn 77 am dair.