Mae’r Cymro Aled Siôn Davies wedi cipio ei drydedd medal aur.

Llwyddodd Aled i gyrraedd y brig unwaith eto wedi iddo ennill y gystadleuaeth taflu pwysau F63 yn y Gêmau Paralympaidd yn Tokyo heddiw (ddydd Sadwrn).

Roedd tafliad gorau y gŵr o Ben-y-bont sef 15.33m yn drech na’r cystadleuwyr eraill.

Yn yr ail safle ac felly’n ennill y fedal arian oedd Sajad Mohammadian o Iran a daflodd bellter o 14.88m gyda Faisal Sorour o Kuwait yn cipio’r fedal efydd wedi iddo daflu pellter o 14.13m.

‘Popeth’

Cyn cystadlu yn Tokyo dywedodd Davies y byddai ennill ei drydedd fedal aur yn golygu “popeth” iddo.

“Dwi wedi rhoi fy holl fywyd i fod y gorau,” meddai. “Fi ond yn dod yma am un lliw.

 

Aled Siôn Davies oedd capten tîm Prydain yn y gêmau eleni.

Yn gynharach fe wnaeth Laura Sugar, a gafodd ei haddysg uwchradd yng Nghasnewydd, ennill medal aur a’r rownd derfynol y caiacio 200m yn y gemau.

Cyn iddi fentro i gaiacio, roedd hi’n athletwraig o fri.