Mae tri newid yng ngharfan griced Morgannwg ar gyfer y gêm Bencampwriaeth yn Durham heddiw (dydd Sul, Medi 5).
Mae’r chwaraewr amryddawn James Weighell a’r batiwr Nick Selman yn dychwelyd ar ôl bod yn hunanynysu, tra bod y batiwr Eddie Byrom yn y garfan am y tro cyntaf ar ôl symud o Wlad yr Haf – ar fenthyg tan ddiwedd y tymor ond yn barhaol wedyn.
Selman oedd prif sgoriwr Morgannwg yn y gystadleuaeth 50 pelawd, Cwpan Royal London, wrth i Forgannwg ennill tlws am y tro cyntaf ers 17 o flynyddoedd wrth guro’u gwrthwynebwyr heddiw, ac fe darodd e 97 i’r ail dîm yn erbyn Swydd Derby yn ddiweddar hefyd.
Yn ôl y drefn arferol ar gyfer mis Medi, bydd y chwarae’n dechrau bob dydd am 10.30yb.
Gemau’r gorffennol
Bydd Morgannwg yn gobeithio taro’n ôl ar ôl colli o fatiad yn erbyn Essex yn eu gêm ddiwethaf.
Dydy Durham ddim wedi chwarae o gwbl ers Awst 19, pan gollon nhw yn erbyn Morgannwg yn y ffeinal yn Trent Bridge yn Nottingham.
Cafodd eu gêm ddiwethaf yn erbyn Surrey ei chanslo o ganlyniad i achosion Covid-19 yng ngharfan Surrey.
Yn Durham yn 2019, gêm ddiwethaf Morgannwg yno, dim ond 86.4 o belawdau oedd yn bosib o ganlyniad i’r glaw, gyda’r ornest yn gorffen yn gyfartal.
Collodd Morgannwg o naw wiced yn Durham yn 2017, eu hymweliad cyntaf ar gyfer gêm Bencampwriaeth ers 2004.
17 o flynyddoedd yn ôl, enillodd Morgannwg o 201 o rediadau ar ôl i Mike Powell daro 124, gyda David Harrison ac Alex Wharf ill dau yn cipio pum wiced mewn batiad i helpu’r tîm i sicrhau’r fuddugoliaeth o fewn tridiau.
Dyma’u trydedd buddugoliaeth yn olynol yn Durham ar ôl ennill yno yn 2003 o 369 o rediadau ac yn 2002 o ddeg wiced, gyda’r Awstraliad Michael Kasprowicz yn serennu yn y ddwy gêm, gan gynnwys naw wiced am 45 yn 2003 ar ôl i Mark Wallace, Mike Powell a Matthew Maynard daro canred yr un.
Carfan Durham: D Bedingham, S Borthwick (capten), P Coughlin, S Dickson, N Eckersley, M Jones, A Lees, M Potts, B Raine, C Rushworth, L Trevaskis
Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), E Byrom, L Carey, K Carlson, D Douthwaite, M Hogan, D Lloyd, S Reingold, H Rutherford, A Salter, N Selman, T van der Gugten, J Weighell