Mae’r Gemau Paralympaidd wedi dirwyn i ben ar ôl i athletwyr o Gymru sy’n cynrychioli Prydain ennill cyfanswm o 14 o fedalau.

Mae Prydain wedi ennill cyfanswm o 124 o fedalau – 41 aur, 38 arian a 45 efydd.

Bydd y seremoni i gau’r Gemau’n cael ei chynnal heddiw (dydd Sul, Medi 5), wrth i’r chwaraewr boccia David Smith o Gastell-nedd gludo baner Prydain.

Smith, oedd wedi ennill ei bumed medal Baralympaidd yr wythnos hon, yw’r chwaraewr boccia mwyaf llwyddiannus erioed o wledydd Prydain.

Dyma’r medalau’n llawn:

Aur – David Smith (boccia), Jim Roberts (rygbi cadair olwyn), Aled Siôn Davies (taflu pwysau), Laura Sugar (canwio)

Arian – James Ball (seiclo 1000m yn erbyn y cloc), Paul Karabardak (tenis bwrdd tîm), Beth Munro (taekwondo)

Efydd – Hollie Arnold (gwaywffon), Olivia Breen (naid hir), Harri Jenkins (100m), Georgia Wilson (marchogaeth prawf unigol), Georgia Wilson (marchogaeth dull rhydd), Paul Karabardak (tenis bwrdd unigol), Tom Matthews (tenis bwrdd)