Fe fydd tîm pêl-droed Cymru’n parhau â’u hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 heddiw (dydd Sul, Medi 5), wrth iddyn nhw herio Belarws yn Rwsia.

Collodd Cymru eu gêm gyntaf yn erbyn Gwlad Belg fis Mawrth o 3-1, cyn curo’r Weriniaeth Tsiec o 1-0.

Mae’r gêm yn cael ei chynnal mewn lleoliad niwtral, sef dinas Kazan yn Rwsia, gan fod sancsiynau gwleidyddol yn erbyn Llywodraeth Belarws.

Ond fe arweiniodd hynny at helynt fisas i chwaraewyr Cymru, gydag Ethan Ampadu, Tyler Roberts a Brandon Cooper yn methu cael y dogfennau priodol mewn da bryd ar gyfer y gêm ac yn gorfod tynnu’n ôl.

Yn ôl y rheolwr dros dro, Robert Page, mae’r sefyllfa’n “wallgof” ac yn “hunllef logistaidd” ac mae’n galw am ymchwiliad pellach.

Mae’n golygu bod Cymru heb ddeg chwaraewr o’r garfan ar gyfer eu gêm gystadleuol ddiwethaf, sef y golled o 4-0 yn erbyn Denmarc yn rownd 16 ola’r Ewros – yn eu plith mae Aaron Ramsey, Connor Roberts, Kieffer Moore a Joe Rodon.

Ymgyrch yn y fantol

Joe Allen a Joe Morrell oedd y ddau yng nghanol y cae yn ystod yr Ewros, ond mae’n debygol fod Dylan Levitt a Matthew Smith wedi gwneud digon yn y gêm gyfeillgar ddi-sgôr yn erbyn y Ffindir i achosi pen tost i’r rheolwr yn y ddwy gêm sydd i ddod, gyda Chymru’n herio Estonia yr wythnos hon.

Mae gan Wlad Belg ddeg pwynt a’r Weriniaeth Tsiec saith ar ôl pedair gêm yr un.

Dim ond dwywaith mae Cymru wedi chwarae hyd yn hyn, gan ennill un a cholli un, sy’n golygu bod chwe phwynt hollbwysig ar gael.

Bydd Cymru’n teimlo’n hyderus ar ôl i dîm Belarws golli o 8-0 yn erbyn Gwlad Belg fis Mawrth, gydag Alexander Lukashenko, arlywydd y wlad, ymhlith y rhai sydd wedi bod yn feirniadol o’r tîm cenedlaethol sy’n rhif 89 ar restr ddetholion FIFA.

Gemau’r gorffennol

Mae Cymru wedi ennill pedair allan o bum gêm yn erbyn Belarws.

Daeth y gyntaf ohonyn nhw yn 1998, chwe blynedd ar ôl gêm gyntaf Belarws yn wlad annibynnol.

Sgoriodd Kit Symons gôl hwyr yn y fuddugoliaeth gartref o 3-2, gyda Dean Saunders a Ryan Giggs yn sgorio ym Minsk wrth i Gymru wneud y dwbwl.

Enillodd y naill dîm a’r llall o 1-0 yn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2002.

Yn eu gêm gyfeillgar ym mis Medi 2019, sgoriodd Daniel James unig gôl y gêm i Gymru.

Y timau

Mae wyth newid yn nhîm Cymru.

Yn dychwelyd ym mlaen y cae mae Daniel James a’r capten Gareth Bale.

Dim ond Danny Ward, James Lawrence a Brennan Johnson, sy’n dechrau gêm gystadleuol am y tro cyntaf, sydd wedi cadw eu llefydd yn y tîm.

Mae tri newid yn nhîm Belarws, gyda Ruslan Khadarkevich, Artem Bykov a Pavel Sedko yn dychwelyd.

Tîm Cymru: Ward, Gunter, Mepham, J Lawrence, Davies, Allen, Morrell, Bale (capten), James, Johnson, Colwill