Sgoriodd Gareth Bale ei drydedd gôl yn ystod munudau ola’r gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2022 i sicrhau’r triphwynt i Gymru yn erbyn Belarws yn Kazan.

Enillodd Cymru o 3-2, a daeth dwy gôl gyntaf Cymru a Bale o’r smotyn.

Dechreuodd Cymru’n ddigon cadarn wrth i gôl gyntaf Bale roi ei wlad ar y blaen ar ôl pum munud.

Ond daeth dwy gôl o fewn dwy funud i’r gwrthwynebwyr, gyda Vitali Lisakovich yn sgorio o’r smotyn ar ôl i Chris Gunter gael ei gosbi am dacl flêr wrth godi ei droed yn uchel, a Pavel Sedko yn rhwydo wedyn wrth i amddiffyn Cymru chwalu.

Daeth ail gôl Bale o’r smotyn hanner ffordd drwy’r ail hanner ac roedd Cymru’n edrych fel pe bydden nhw’n ffodus i gipio pwynt.

Ond daeth y gôl fawr funud cyn diwedd y gêm wrth i Bale ergydio’n isel i’r rhwyd, a’r bêl yn taro corff y golwr Sergei Chernik cyn mynd i mewn.

Dyma goliau cyntaf Bale dros Gymru ers 2019.