Dioddefodd tîm criced Morgannwg gryn embaras ar ddiwrnod cyntaf eu gêm Bencampwriaeth oddi cartref yn Durham.
Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, cawson nhw eu bowlio allan am 97 yn eu batiad cyntaf, cyn i’r Saeson gyrraedd 223 am dair erbyn diwedd y dydd – blaenoriaeth o 126 gyda saith wiced yn weddill.
Cipiodd Paul Coughlin bedair wiced am 11 i’r Saeson, cyn i Michael Jones daro 81 ac Alex Lees 55 mewn partneriaeth agoriadol o 119, tra bod David Bedingham yn dal wrth y llain ar 44.
Ac eithrio Hamish Rutherford, gyda 43 oddi ar 43 o belenni, gyda chwe phedwar, wnaeth neb arall gyfrannu gyda’r bat i gyfanswm hynod siomedig Morgannwg, wrth iddyn nhw fynd o 63 am un i 97 i gyd allan mewn 18 pelawd.
Batiad cyntaf Morgannwg
Er bod y llain wedi helpu bowlwyr Durham, chafodd eu batwyr fawr ddim trafferth i sgorio rhediadau, gyda Lees a Jones yn cyrraedd yr hanner cant oddi ar 106 o belenni.
Aeth eu partneriaeth y tu hwnt i’r cant wrth iddyn nhw ddechrau adeiladu blaenoriaeth sylweddol.
Mae Jones bellach wedi sgorio tri hanner canred mewn gemau dosbarth cyntaf, ac fe gyrhaeddodd Lees ei hanner canred yntau gyda’i wythfed ergyd i’r ffin.
Tarodd Michael Hogan goes Lees o flaen y wiced ar ôl te, ond parhau i bwyso ar Forgannwg wnaeth Jones a’r capten Scott Borthwick, cyn i Jones gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke a Borthwick yn cael ei ddal gan David Lloyd wrth i’r Iseldirwr Timm van der Gugten gipio’r ddwy wiced.
Mae Morgannwg, felly, yn brwydro i achub yr ornest cyn dechrau’r ail ddiwrnod.