Enillodd y Cymro ei bedwerydd tlws ar Daith Ewropeaidd y PDC neithiwr (nos Sul, Medi 5), wrth iddo fe guro Michael Smith o 8-2 i gipio Tlws Dartiau Hwngari.

Curodd e Luke Humphries, Damon Heta a Brendan Dolan ar ei ffordd i’r ffeinal.

Roedd ganddo fe gyfartaledd tri dart o 107 wrth guro Humphries o 7-4 yn y rownd gyn-derfynol wrth i’w wrthwynebydd geisio cyrraedd rownd derfynol un o gystadlaethau’r Daith Ewropeaidd am y tro cyntaf.

Roedd e ar ei orau unwaith eto yn erbyn Smith yn y rownd derfynol, gan orffen y ddwy gêm gyntaf â 12 dart, gan gynnwys sgôr o 130 i gipio un ohonyn nhw.

Enillodd Smith y ddwy gêm nesaf i unioni’r sgôr, ond aeth Price ar y blaen eto ac ennill pedair gêm yn olynol â 14 dart i fynd ar y blaen o 7-2.

Er i Price fethu tri chyfle i ennill yr ornest wedyn, wnaeth Smith fethu â manteisio ar ei gyfle, a thaflodd Price yn llwyddiannus at ddwbl 10 i ennill y tlws.

Roedd gan Price gyfartaledd tri dart o 108.74 yn y rownd derfynol.