Dechreuodd yr actores 37 oed ei gyrfa fel dawnswraig cyn sylweddoli yn fuan mai actio oedd yn mynd â’i bryd.

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, aeth i’r Coleg Cerdd a Drama yn y brifddinas ac mae wedi actio yn The Pembrokshire Murders, Manhunt, Yr Amgueddfa, ac yn fwy diweddar, Anfamol a Creisis ar S4C.