Gyda Rhun ap Iorwerth yn arwain Plaid Cymru ers mis Mehefin y llynedd, aeth Rhys Owen i’w holi am ei ddeuddeg mis cyntaf wrth y llyw, a chlywed fod y gwleidydd yn beirniadu un o gystadlaethau Steddfod yr Urdd…

Bron i flwyddyn ers iddo gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad i arwain Plaid Cymru, mae Rhun ap Iorwerth wedi cael amser da ohoni ar lawr y Senedd ers cymryd drosodd gan Adam Price.