Mae un blog o’r Alban yn ddiddorol iawn yr wythnos yma, oherwydd ei fod yn dweud cymaint am Gymru. Er mwyn ymateb i ffigurau oedd yn dangos cynnydd bychan iawn yn nifer siaradwyr Gaeleg, aeth bellacaledonia.org.uk ati i gasglu ymateb nifer o arbenigwyr a siaradwyr yr iaith. Faint o’r rhain sy’n taro tant i ninnau?