Cafwyd newyddion da’n ddiweddar, wrth i’r Alban o’r diwedd ryddhau mwy o ystadegau o’i chyfrifiad diwethaf. Yn ôl y data, gwelwyd cynnydd parchus iawn yn nifer y siaradwyr Gaeleg, o tua 58,000 ddegawd ynghynt i bron 70,000 yn 2021. Meiddiaf ddweud bod hynny’n destun cenfigen, i ryw raddau, i ni yma yng Nghymru.