Morgannwg v Surrey: Siom i’r sir Gymreig wrth agor y Vitality Blast

Dwy gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd sydd gan y sir Gymreig i ddechrau’r gystadleuaeth

Sgorfwrdd – Morgannwg v Surrey

Bydd tîm criced Morgannwg yn agor eu hymgyrch ugain pelawd yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd heno (nos Wener, Mai 31).

Byddan nhw’n herio Surrey (6.30yh), cyn wynebu Sussex yn y brifddinas brynhawn Sul (Mehefin 2, 2.30yp).

Hon fydd gêm ugain pelawd gynta’r troellwr coes Mason Crane i’r sir, ar ôl iddo symud ar fenthyg o Hampshire.

Bydd James Harris yn cael gorffwys, ond mae’r ddau chwaraewr tramor Colin Ingram a Marnus Labuschagne wedi’u cynnwys.

Enillodd Surrey eu gêm agoriadol o bum wiced yn erbyn Hampshire yr wythnos hon, ond dydy Morgannwg na Sussex ddim wedi chwarae eto.

‘Gwefr’

“Mae gwefr yn y garfan yn sgil newid fformat a chyflymdra, gyda’r T20 wedi ein cyrraedd,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Dros y tri mis diwethaf, rydyn ni wedi symud ein sylw yn rheolaidd tuag at y T20 rhwng canolbwyntio ar y Bencampwriaeth.

“Mae ein carfan i gyd yn dechrau’r ymgyrch yn y Vitality Blast gydag eglurder o ran ein cynlluniau er mwyn ennill, gan gynnwys rolau unigol sydd yn gweddu orau i’r sgiliau gwych sydd gennym yn ein tîm.

“Mae tipyn o gyffro’n adeiladu, yn enwedig gyda’r ddwy rownd gyntaf o gemau gartref, lle mae gennym ni gyfle i arddangos ein sgiliau gerbron teulu, ffrindiau a chefnogwyr y tîm cartref yng Ngerddi Sophia.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, M Crane, T van der Gugten, J McIlroy, H Podmore, B Kellaway, W Smale, A Gorvin

Carfan Surrey: O Pope (capten), S Abbott, G Atkinson, R Burns, T Curran, J Clark, L Evans, S Johnson, D Lawrence, J Roy, D Sibley, J Smith, C Steel, D Worrall

22:04

“Os edrychwch chi ar y garfan a’r tîm sydd gyda ni, mae gyda ni opsiynau sbin, sêm, ac rydyn ni’n batio’n eithaf dwfn gyda Timm [van der Gugten] yn rhif naw a Mason [Crane] yn rhif deg,” meddai Colin Ingram wrth golwg360.

“Yn yr ystyr hynny, dw i’n credu ein bod ni’n dîm llawer mwy cyflawn.

“Ond wedi dweud hynny, rhaid i chi fynd a bod yn gystadleuol yn y canol. Dw i’n credu ein bod ni’n teimlo’n siomedig gan y gallen ni fod wedi mynd ac ennill y gêm honno, hyd yn oed yn erbyn tîm mawr fel Surrey.

“Ond bydd hynny’n gwneud i ni awchu wrth fynd i mewn i’r un nesaf.

“Fe wnaethon ni ddysgu tipyn y llynedd, a gwneud nifer o gamgymeriadau, ond dysgon ni lawer am sut rydyn ni eisiau chwarae criced. Eleni, mae’n fater o weithredu ar hynny.

“Rydyn ni’n brifo heno, ond mae hynny wastad yn beth da.”

21:25

Morgannwg wedi gorffen ar 181 am saith.

Buddugoliaeth i Surrey o 19 rhediad, ond digon o bethau positif i’w cymryd o’r gêm hon i’r sir Gymreig. 

Ymlaen at Sussex yma ddydd Sul.

21:23

WICED!

Tom Bevan wedi’i fowlio gan Dan Lawrence.

Morgannwg 176 am saith yn y belawd olaf. Chwarae teg iddyn nhw am fynd â’r ornest at Surrey. Mae hon dipyn agosach nag y byddai rhywun wedi tybio.

21:21

WICED!

Wrth i fi ddechrau hanner breuddwydio, mae Dan Douthwaite wedi canfod y maeswr Johnson, sydd wedi cipio daliad isel oddi ar fowlio Jordan Clark. Y batiwr allan am un.

Morgannwg 173 am chwech.

28 sydd eu hangen oddi ar y belawd olaf.

21:16

Mae angen 39 arall ar Forgannwg, sydd bellach yn 162 am bump gyda deuddeg pelen yn weddill. O ystyried bod y nod mor sylweddol, mae hon wedi bod yn ymdrech a hanner gan y sir Gymreig!

21:12

Tair pelawd sy’n weddill, ac mae Morgannwg wedi cyrraedd 150 am bump.

51 arall i ennill oddi ar 18 pelen. Gormod i’w wneud o hyd, ond maen nhw’n dal i glatsio.

21:09

WICED!

Marnus Labuschagne wedi’i ddal gan y wicedwr Jamie Smith. Wiced i Sean Abbott. Rhaid teimlo bellach fod gobeithion Morgannwg wedi hen fynd – er, gall Dan Douthwaite glatsio hefyd, cofiwch!

135 am bump oddi ar 16.1 pelawd.

21:07

Morgannwg 135 am bedair ar ôl 16 pelawd.

66 rhediad sydd ei angen arnyn nhw oddi ar 24 pelen.

Pa mor agos fydd hi yn y pen draw, tybed?

21:04

WICED!

Colin Ingram wedi cael ei redeg allan am 50. Yn y prysurdeb a’r pryder mae dryswch rhwng y batwyr.

Partneriaeth o 99.

Morgannwg 129 am bedair ar ôl 15.1 pelawd.

21:02

Hanner canred i Colin Ingram hefyd, oddi ar 40 pelen.

Morgannwg 129 am dair ar ôl 15 pelawd.

72 i ennill oddi ar bum pelawd…