Mae tîm criced Morgannwg yn wynebu colled drom yn y Bencampwriaeth unwaith eto, wrth iddyn nhw geisio achub yr ornest yn Durham.
Mae angen 335 yn rhagor arnyn nhw i orfodi’r tîm cartref i fatio eto, ar ôl cyrraedd 71 am ddwy yn eu hail fatiad.
Cawson nhw eu bowlio allan am 97 yn eu batiad cyntaf, cyn i Durham sgorio 503 am wyth cyn cau eu batiad cyntaf.
Tarodd Ben Raine, Liam Trevaskis a Ned Eckersley hanner canred yr un i roi Morgannwg dan bwysau sylweddol.
Dyma’r tro cyntaf i Durham sgorio dros 500 mewn batiad y tymor hwn, ac maen nhw wedi ymdopi tipyn yn well na Morgannwg ar lain sy’n cynnig cymorth i’r bowlwyr os ydyn nhw’n bowlio’n gywir.
Yr ail ddiwrnod
Roedd Durham yn 223 am dair ar ddechrau’r ail ddiwrnod cyn i David Bedingham gael ei fowlio gan Michael Hogan wrth golli allan ar y garreg filltir o 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn y Bencampwriaeth eleni.
Ond gwasgu wnaeth Eckersley a Sean Dickson am y bumed wiced, gyda Dickson yn sgorio 46 er gwaethaf anaf cyn cael ei fowlio gan Hogan â’r ail bêl newydd.
Daeth trydydd canred Eckersley y tymor hwn oddi ar 68 o belenni, gan gynnwys chwe ergyd i’r ffin, cyn cael ei ddal yn gelfydd gan Nick Selman yn y slip am 57, gyda Raine y pen arall yn edrych yn gyfforddus o hyd ac yn cwblhau ei ddeuddegfed hanner canred mewn gemau dosbarth cyntaf wrth sicrhau pwyntiau batio llawn i’w dîm.
Adeiladodd Raine a Trevaskis 98 am yr wythfed wiced, gyda Raine allan am 74 wrth chwarae ergyd ymosodol a chael ei ddal ar y ffin gan Eddie Byrom.
Daeth hanner canred cynta’r tymor i Trevaskis wedyn, cyn i Durham gau’r batiad.
Ail fatiad Morgannwg
Roedd Morgannwg dan bwysau unwaith yn rhagor yn eu hail fatiad wrth i Matthew Potts waredu David Lloyd, gyda Paul Coughlin yn cipio wiced Nick Selman i adael Morgannwg yn 38 am ddwy.
Llwyddodd Hamish Rutherford i oroesi sawl ergyd oddi ar ymyl ei fat i gyfeiriad y slip, ac mae e heb fod allan ar 32, a Byrom yn dal wrth y llain ar 17.
Ond bydd angen cyfraniadau sylweddol gan sawl batiwr er mwyn achub yr ornest.