Mae taith seiclo Tour Prydain wedi cyrraedd Gorllewin Cymru.

Bydd trydydd cymal y daith yn ras yn erbyn y cloc yn Sir Gâr heddiw, 7 Medi.

Mae’r ras honno yn dechrau yn nhref Llandeilo, cyn gorffen yn y Gerddi Botaneg yn Llanarthne.

Yna, bydd y seiclwyr yn mynd yn eu blaen i Geredigion ar gyfer cymal pedwar ddydd Mercher, 8 Medi.

Bydd y cymal hwnnw’n daith 210 cilomedr o hyd, gan ddechrau yn Aberaeron a gorffen ar y Gogarth ger Llandudno.

Yr arweinydd yn mynd i mewn i’r cymalau nesaf yw’r Americanwr Robin Carpenter o dîm Rally Cycling.

Cyffro

Fe wnaeth y seiclwr, Gruff Lewis, drafod y ffaith bod y daith yn mynd drwy ogledd Ceredigion a chanolbarth Cymru gyda golwg360 ym mis Gorffennaf.

“Mae yna lawer o gyffro. Mae lot o fy ymarfer i, a fy nghlwb i, Caffi Gruff, yn digwydd rownd yr ardal yna,” dywedodd Gruff.

“Bydd y cymal yn mynd o Aberaeron, trwy’r canolbarth a gorffen yn y gogledd ar y Gogarth [ger Llandudno], ac mae gen i deulu ym Mhorthmadog, felly mae hynny’n golygu cymaint i fi.

“Pan oedd fy mhartner yn feichiog, ro’n ni’n seiclo’r hewl yna o Ddolgellau ac ar hyd yr arfordir i Borthmadog, felly mae gen i atgofion melys.”

Ysbrydoli

Fe wnaeth Peter Hughes Griffiths o Gyngor Sir Gâr ddweud bod croesawu’r daith yn rhan o amcan ehangach y Cyngor i ddod yn ganolbwynt i seiclo yng Nghymru.

“Mae ein huchelgais i Sir Gaerfyrddin ddod yn Ganolbwynt Beicio Cymru yn glir, ac mae cael ein dewis unwaith eto i gynnal cymal o Daith Prydain yn dangos mai ni bellach yw’r prif leoliad ar gyfer beicio yng Nghymru,” meddai.

“Gyda gweledigaeth a buddsoddiad, rydym yn darparu ar gyfer pobl leol sy’n mwynhau beicio boed ar gyfer hamdden neu wrth deithio, gan ddenu twristiaid i fwynhau ein lleoliadau prydferth a chefnogi ein heconomi, a denu beicwyr gorau’r byd i ddigwyddiadau mawr sy’n cael eu dangos ar y teledu.

“Rydym yn falch iawn o groesawu Taith Prydain am y trydydd tro ac edrychwn ymlaen at ddigwyddiad y gwyddom sy’n ysbrydoli pobl o bob gallu i fynd ar eu beic.”