Roedd croesawu’r cefnogwyr yn ôl, ffitrwydd ac anafiadau chwaraewyr blaenllaw, bygythiad y gwrthwynebwyr a dyfodol y capten ymhlith y prif bynciau wrth i Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, a’r capten Gareth Bale gyfarfod â’r wasg cyn y gêm ragbrofol yn erbyn Estonia yng Nghaerdydd nos Fercher (8 Medi).
Bydd y gic gyntaf am 7:45yh.
Mae’r Wal Goch yn cael bod mewn gêm am y tro cyntaf ers y pandemig.
Mae Joe Rodon yn dychwelyd i’r garfan ar ôl anafiadau, ac mae cryn drafod o hyd am ddyfodol y capten Gareth Bale ar y llwyfan rhyngwladol yn dilyn ei hatric yn erbyn Belarws ddydd Sul (5 Medi).
Joe Rodon yn ôl, ond dim Aaron Ramsey
“Mae e wedi chwarae 26 munud ers ein gêm olaf ni yn yr Ewros, felly gwnewch be fynnwch chi o hynny,” meddai Rob Page am yr amddiffynnwr canol Joe Rodon.
“Mae’n grêt ei fod wedi gallu ymuno â ni yn y gwersyll, mae e’n hollol ffit nawr ac mae e wedi hyfforddi gyda ni heddiw.
“Fel dw i wedi dweud o’r blaen, mae e’n rhan enfawr o beth rydyn ni eisiau ei wneud wrth symud ymlaen ac mae’n grêt ei gael e’n ôl gyda’r bechgyn.”
Fodd bynnag, dydy Aaron Ramsey ddim wedi gallu ymuno â’r garfan.
“Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda’r clwb ac Aaron, fe wnaeth e wthio ei hun yn galed, ond roedd e ychydig oddi ar lle’r oedd y clwb am iddo fod er mwyn caniatáu iddo ymuno â ni.
“Mae’n rhwystredig, ond mae yno chwaraewyr eraill y gallwn ni roi cyfle iddyn nhw nawr.”
Y Wal Goch yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd
Dywed Rob Page ei fod yn falch iawn bod y Wal Goch yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd – y tro cyntaf iddyn nhw gael gwneud hynny ers cyn y pandemig ddechrau’r llynedd.
“Mae’r cefnogwyr wedi bod yn rhan mor bwysig o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni ar hyd y blynyddoedd diwethaf,” meddai.
“Roedd e’n brofiad anhygoel i mi’n bersonol pan wnaethon ni gymhwyso ar gyfer yr Ewros cwpl o flynyddoedd yn ôl, ac roeddwn i’n gefnogwr fy hun pan wnaethon ni gymhwyso yn 2016.
“Mae’n grêt pan mae’r cefnogwyr yno ac rydyn ni’n falch iawn eu bod nhw am fod yno nos yfory.
“Does yna ddim teimlad gwell na phan wyt ti’n chwarae’n dda fel unigolyn ac fel tîm ac mae’r dorf y tu ôl i ti.
“Maen nhw’n chwarae rhan fawr pan wyt ti’n gorfod torchi dy lewys mewn gêm anodd ac mae’r cefnogwyr yno gyda ni yn canu.
“Mae e yn ein helpu ni i gael dros y llinell.”
Bygythiad ymosodol Estonia
Mae Estonia wedi sgorio ym mhob un o’u gemau yn yr ymgyrch hyd yma, ac mae Rob Page yn dweud ei fod yn wyliadwrus o’r bygythiad hwnnw.
“Maen nhw’n dechrau gemau gyda thempo cyflym dros ben, fe wnaethon nhw sgorio ar ôl dau funud yn erbyn Gwlad Belg,” meddai.
“Byddai’n amharchus dweud bod yno gemau hawdd yn y gystadleuaeth hon, does yno ddim gemau hawdd am wahanol resymau.
“Ydy pobol yn disgwyl i ni ennill, ydyn, ond dyw gemau byth mor hawdd â hynny.
“Rydyn ni’n hollol barod, ac wedi addasu rhai pethau wnaeth ein poeni’r noson o’r blaen.
“Maen nhw’n dîm sy’n chwarae gyda dau ymosodwr ac maen nhw wastad yn fygythiad felly byddwn yn parchu hynny.
“Ond eto mae’n ymwneud â’r hyn rydyn ni’n ei wneud, a gyda’r chwaraewyr sydd gennym ni ar y cae gallwn eu brifo nhw.”
Gareth Bale ddim gyda tharged goliau
Mae Gareth Bale yn dweud nad oes ganddo darged o ran y nifer o goliau mae e eisiau eu sgorio i Gymru.
Fe yw’r chwaraewr sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o goliau erioed dros ei wlad, gyda 36 hyd yma.
Sgoriodd e hatric yn erbyn Belarws ddydd Sul (Medi 5).
“Na, does gen i ddim targed a dweud y gwir,” meddai.
“Wrth gwrs, byddai’n braf cyrraedd 40, hwnna yw’r rhif crwn agosaf.
“Ond does gen i ddim targed.
“Y peth gyda fi yw fy mod wedi chwarae fy 25 gêm gyntaf fel amddiffynnwr chwith, felly dydi hynny ddim yn helpu’r ystadegau.
“Wrth gwrs, mae hi wastad yn braf sgorio, ac roedd yn braf iawn torri’r record… ond nawr mae’n ymwneud â helpu’r tîm a cheisio llwyddo fel gwlad.
“Rydyn ni eisiau gwneud pawb yn hapus a balch, ysbrydoli pobol ifanc a gwneud cystal ag y gallwn ni ar y cae.”
Cefnogwyr i gael teithio i’r Weriniaeth Tsiec ac Estonia
Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd cefnogwyr Cymru yn cael teithio i gemau rhagbrofol Cwpan y Byd ym mis Hydref yn y Weriniaeth Tsiec ac Estonia.
Daeth cadarnhad gan FIFA ar ôl i Uefa godi gwaharddiad ar gefnogwyr yn mynychu gemau clwb Ewropeaidd.
Bydd teithio a niferoedd a ganiateir i fynychu gemau yn amodol ar gyfyngiadau gan awdurdodau lleol a chenedlaethol.
Mae’r Weriniaeth Tsiec ac Estonia ar restr oren Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae gan Lywodraeth Cymru eu gofynion eu hunain sy’n gysylltiedig â Covid-19 ar gyfer pobol sy’n teithio i mewn ac allan o Gymru.
“Yn amlwg, dydyn ni ddim yn gwybod beth all ddigwydd o fewn mis, ond y mwyaf o gefnogwyr allwn ni gael gartref ac oddi cartref, gorau i gyd,” meddai Gareth Bale.
“Mae eu cael nhw yna wastad yn mynd i’n helpu ni.
“Ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar y gêm yfory yn gyntaf a gweld beth fydd yn digwydd wedyn.”