Gallai’r byd rygbi weld wynebau mwya’r gamp yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn twrnament 12-bob-ochr newydd y flwyddyn nesaf.

Byddai cystadleuaeth y World 12s yn cael ei chynnal yn Lloegr fis Awst nesaf pe bai’r cynlluniau’n llwyddiannus.

Yn ôl y rhai sydd ynghlwm â’r trefniadau, bydd 192 o chwaraewyr gorau’r byd yn cynrychioli wyth tîm, ac fe fydd y rheiny’n cael eu dewis drwy ocsiwn.

Bydd rhan helaeth o’r chwaraewyr yn dod o wledydd Haen Un – sef y gwledydd mwyaf llwyddiannus mewn rygbi, ond bydd rhaid i bob tîm ddewis o leiaf ddau chwaraewr o wledydd Haen Dau – sydd o safon ychydig yn llai.

Maen nhw’n dweud y bydd y gystadleuaeth yn cynyddu’r arian sydd yn y gamp o £250m.

Y gobaith yw cynnal y gystadleuaeth yr eildro yn 2023 ar gyfer chwaraewyr rygbi merched, ac fe fydden nhw’n cael yr un faint o wobr ariannol â’r dynion, mae’n debyg.

‘Esblygiad naturiol’

Dydy’r cynlluniau ddim yn swyddogol eto, ond mae’r trefnwyr mewn trafodaethau gyda chorff Rygbi’r Byd, yn ogystal â chlybiau, undebau a chwaraewyr blaenllaw.

“Mae cystadleuaeth y World 12s yn esblygiad naturiol i rygbi’r undeb,” meddai Ian Ritchie, cadeirydd y datblygiad.

“Rydyn ni’n teimlo bod hon yn gêm ar gyfer byd sydd o hyd yn newid, ac yn un sy’n gallu cyffroi cefnogwyr yn fyd-eang yn y ffordd rydyn ni wedi’i gweld gyda’r Indian Premier League, neu’n fwy diweddar gyda chystadleuaeth The Hundred mewn criced.”

“Angen ymgynghoriad cynhwysfawr”

Fe wnaeth Rygbi’r Byd gydnabod y trefniadau a’r trafodaethau.

“Rydyn ni’n ymwybodol o gystadleuaeth newydd arfaethedig y World 12s,” meddai’r corff llywodraethu byd-eang.

“Er ein bod ni’n croesawu syniadau arloesol gyda’r potensial i hybu dilyniant, atyniad a thwf y gamp, mae angen ymgynghoriad cynhwysfawr â’r trefnwyr i ddeall pa mor hyfyw yw’r cysyniad, yn enwedig tra bod trafodaethau parhaus am galedwch y calendr rygbi a lles chwaraewyr.”