Tîm INEOS Grenadiers oedd yn fuddugol yng nghymal tri o Tour Prydain yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth, Medi 7).

Ras yn erbyn y cloc i dimau oedd y cymal, ac fe wnaeth INEOS – sy’n cynnwys y Cymro Owain Doull – orffen mewn 20 munud a 22 eiliad.

Roedd y llwybr yn dechrau yn nhref Llandeilo ac yn gorffen 18 cilomedr i ffwrdd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne.

Dyma’r cyntaf o ddau gymal sy’n cael eu cynnal yng Nghymru eleni, gyda’r ail yn digwydd yfory (dydd Mercher, Medi 8).

Y Sais Ethan Hayter o dîm INEOS sy’n arwain y ras, tra bod Rohan Dennis yn ail, ac un o ffefrynnau’r ras, Wout van Aert, yn drydydd.

Cafodd y tri seiclwr sydd ar y podiwm ar hyn o bryd fedalau yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 mewn cystadlaethau gwahanol.

Byddan nhw’n gobeithio bod yr un mor llwyddiannus erbyn diwedd y Tour hon, sy’n dod i derfyn yn Aberdeen.