Mae tîm criced Morgannwg wedi sicrhau bod eu gêm Bencampwriaeth oddi cartref yn Durham wedi cyrraedd y diwrnod olaf.

Mae angen 73 yn rhagor arnyn nhw i orfodi’r tîm cartref i fatio eto.

Roedden nhw’n 71 am ddwy ar ddechrau’r trydydd diwrnod heddiw (dydd Mawrth, Medi 7), cyn llithro i 151 am chwech.

Maen nhw bellach yn 333 am saith ar ôl i Dan Douthwaite, gyda’i sgôr gorau erioed yn y Bencampwriaeth (96), ac Andrew Salter (82 heb fod allan) adeiladu partneriaeth o 163 am y seithfed wiced, sy’n record i’r sir am y seithfed wiced yn erbyn Durham.

Yn ystod y batiad, cyrhaeddodd Douthwaite gyfanswm gyrfa o 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf wrth iddo golli ei wiced bedwar rhediad yn brin o’i ganred cyntaf yn y Bencampwriaeth.

Tarodd Douthwaite 16 pedwar oddi ar 185 o belenni gan fatio am bedair awr.

Manylion

Yn gynharach ar y trydydd diwrnod, cyrhaeddodd Hamish Rutherford ei hanner canred oddi ar 86 o belenni cyn cael ei ddal gan Alex Lees oddi ar fowlio Chris Rushworth am 71, gydag Eddie Byrom, yn ei gêm gyntaf ar ôl symud o Wlad yr Haf, allan am 17 wrth gael ei fowlio gan Paul Coughlin.

Ond fe ddigwyddodd y chwalfa nodweddiadol wedyn wrth i Forgannwg lithro o 99 am ddwy i 151 am chwech erbyn i’r capten Chris Cooke gael ei ddal gan Ned Eckersley oddi ar fowlio Coughlin am bump.

Hyd yn hyn, mae Andrew Salter wedi wynebu 202 o belenni ac wedi taro 14 pedwar mewn 248 o funudau wrth y llain, ac mae Timm van der Gugten ben draw’r llain ar saith.

Mae gan Forgannwg gryn waith i’w wneud o hyd i achub yr ornest, ond fe fydd rhwyfaint o foddhad, ar ôl cael eu bowlio allan am 97 yn eu batiad cyntaf, eu bod nhw wedi osgoi colli o fewn tridiau am yr ail waith yn olynol.

Morgannwg yn wynebu colled drom eto yn Durham

Mae angen 335 yn rhagor arnyn nhw i orfodi’r tîm cartref i fatio eto

Embaras i Forgannwg ar y diwrnod cyntaf yn Durham

97 i gyd allan, a’r tîm cartref yn 223 am dair yn y batiad cyntaf

Morgannwg yn teithio i Durham

Tri newid yn y garfan a wyneb newydd i Forgannwg